Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd

 

Nod y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yw gwneud yn siwr fod yr amrywiaeth ehangaf posibl o bobl yn cael ein gwefan yn un hawdd ei defnyddio. Rydym yn gweithio'n galed i gynyddu hygyrchedd ein gwefan yn barhaus.

 

Hygyrchedd ein safle

Caiff ein gwefan ei phrofi'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn cwrdd â safon hygyrchedd y llywodraeth. Yr enw ar y safon hwn Lefel A-Ddwbl (AA) y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe W3C . Ble bo  hynny'n bosibl, gwnawn ein gorau i gwrdd â lefel hygyrchedd A-Driphlyg (AAA) lle nad yw hynny'n lleihau'r defnyddioldeb ar gyfer unrhyw grwpiau defnyddwyr eraill.

 

Cymorth hygyrchedd

Mae nifer o nodweddion ar gael ar eich cyfrifiadur i wneud ein gwefan yn haws ei defnyddio. Gall y nodweddion hyn eich helpu i wneud pethau fel newid maint a lliw'r testun a newid lliw'r cefndir.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y canlynol: 

Cymhorthion gwelywio

Mae llawer o nodweddion ar wefan IPS wedi eu dylunio i'w gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi ei eisiau:

  • Bysellau mynediad: mae'r rhain wedi cael eu gosod i'w gwneud hi'n haws i chi neidio i dudalennau sy'n cael eu defnyddio'n aml
  • Blwch chwilio: mae gan y wefan gyfleuster chwilio

Bysellau mynediad a sut i'w defnyddio

Rydym wedi defnyddio bysellau mynediad safonol y Llywodraeth lle mae'r rheini'n berthnasol i'r safle hwn. Bwriad y rhain yw'ch helpu i welywio drwy'r prif ardaloedd gan ddefnyddio bysellau llwybr byr.

Mae is-set o'r rhai safonol wedi eu defnyddio a dyma'r bysellau mynediad:

 

Mae is-set o'r rhai safonol wedi eu defnyddio a dyma'r bysellau mynediad:

S - Sgipio gwelywio
1 - Hafan
3 - Map y safle
4 - Chwilio
8 - Telerau ac Amodau  
9 - Cysylltwch â ni
0 - Hygyrchedd

 

Gyda systemau Windows:

Pwyswch y fysell Alt a rhif neu lythyren y fysell fynediad isod. Yna pwyswch  Enter.

Gyda systemau Apple Mac:

Pwyswch y fysell Ctl a rhif neu lythyren y fysell fynediad isod.

Newid maint y testun

Mae'r testun ar y wefan hon wedi ei lunio gan ddefnyddio gwerth ansefydlog mewn dalen arddull. Mae hyn yn golygu y gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr.  

Mae gwefan y BBC My Web My Way yn rhoi help manwl ar newid eich porwr, eich system weithredu, neu'ch cyfrifiadur i edrych ar wefannau mewn modd mwy hygyrch.

Help gyda dogfennau PDF

Mae'r wefan yn cynnwys nifer o ddogfennau Fformat Dogfen Gludadwy (PDF). I ddarllen y dogfennau hyn ar-lein, neu i'w hargraffu, mae angen gosod Darllenydd Adobe ar eich cyfrifiadur. Gellir lawrlwytho Adobe Reader (sy'n agor mewn ffenest newydd) yn rhad ac am ddim ar wefan Adobe ac mae ar gael ar gyfer nifer o systemau gweithredu cyfrifiadurol yn cynnwys Microsoft Windows, Apple Mac a Linux.

Bydd dolenni i ddogfennau'n agor mewn ffenest bori newydd.

Dulliau amgen i ddarllen ein dogfennau

Os ydych chi'n defnyddio meddalwedd darllen sgrîn neu porwr gwe sain, mae Adobe'n darparu teclyn ar-lein rhad ac am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi'r canllawiau i fformat testun plaen.

I ddefnyddio teclyn ar-lein Adobe:

  1. Dewch o hyd i ddolen y ddogfen rydych am ei darllen ar y wefan hon, a chopïwch hi
  2.  Ewch i offer ar-lein Adobe  (agorwch mewn ffenest newydd)
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn

Bydd y teclyn yn dangos eich dewis o ganllaw fel tudalen gwe (HTML) neu fel testun plaen.

Gallwch ddarllen mwy am  Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe

 

Cysylltiadau

Mae gan ddolenni'r priodoleddau 'deitl' sy'n disgrifio cyrchfan y ddolen yn fanylach. Nid yw priodoleddau teitl yn cael eu cynnwys os yw'r ddolen eisoes yn disgrifio'n llawn i ble mae'r ddolen yn mynd; er enghraifft, pennawd stori newyddion.

Lle mae hynny'n bosibl caiff dolenni eu hysgrifennu er mwyn gwneud synnwyr  o'u cyd-destun, er mwyn i chi beidio gorfod darllen y testun o'u cwmpas i ddeall ble bydd y ddolen yn mynd â chi. 

Byddwch yn cael rhybudd bob amser os bydd clicio ar ddolen yn agor ffeil neu wefan  mewn ffenest bori newydd. Mae'r rhybudd wedi ei gynnwys naill ai yn y ddolen ei hun, ym mhriodwedd y teitl neu yn y testun sy'n dod yn union ar ôl y ddolen. Bydd dolenni i safleoedd allanol yn agor ffenest bori newydd.

 

Delweddau

Mae gan holl ddelweddau a graffeg y wefan briodwedd testun amgen sy'n disgrifio cynnwys neu swyddogaeth y ddelwedd.  Bydd y disgrifiad hwn yn cael ei ddangos pan fydd delweddau wedi eu troi i ffwrdd, ar borwr testun yn unig neu fel 'awgrym teclyn' mewn rhai porwyr pan fydd pwyntydd y llygoden yn cael ei symud dros y ddelwedd.

 

Cymorth ychwanegol

Mae system weithredu Apple Mac yn cynnwys nifer o opsiynau hygyrchedd, yn cynnwys ailfeintio testun, llefaru testun a dewisiadau bysellfwrdd yn lle swyddogaethau llygoden. Am ragor o wybodaeth ewch i adran hygyrchedd gwefannau Apple

 

Mae nifer o nodweddion hygyrchedd wedi eu hadeiladu i mewn yng nghynnyrch Microsoft. Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan hygyrchedd section of the Microsoft website

 

Manylion cyswllt

Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd a defnyddiadwyedd ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, neu os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio unrhyw ran o'r safle, cysylltwch â