Sefydlwyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fel Asiantaeth Weithredol i'r Swyddfa Gartref ar 1 Ebrill 2006. Mae'r Asiantaeth yn adeiladu ar seiliau cadarn Gwasanaeth Pasportau'r DU er mwyn darparu gwasanaethau pasportau ac yn y dyfodol, fel rhan o'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol, gardiau adnabod i wladolion Prydeinig a Gwyddelig sy'n preswylio yn y DU.
Mae'r pasport yn ddogfen unigryw o bwysig. Mae'n darparu tystiolaeth sy'n dderbyniol ledled y byd am genedligrwydd rhywun. Mae dal pasport yn caniatáu i ddinasyddion y DU arfer un o'u hawliau sylfaenol, sef gadael y wlad a dychwelyd iddi. (ffenestr newydd).
Mae datblygiad y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn adeiladu ar sail y newidiadau sy'n digwydd i basportau er mwyn cynnig ffordd ddiogel a syml o ddiogelu hunaniaethau personol rhag cael eu camddefnyddio.
Mae IPS yn cydweithio'n agos â'r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo, UKvisas a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i ddarparu safonau gwasanaeth cyson ar gyfer dogfennau adnabod ar draws y sefydliadau hyn. Mae gan yr Asiantaeth rôl allweddol i'w chwarae o ran trawsffurfio sut mae'r llywodraeth yn rhyngweithio â dinasyddion a busnesau yn y DU trwy ddatblygu safonau cyffredin mewn rheoli hunaniaeth.