Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Manteision i'r unigolyn

Dinasyddion Prydeinig

Unwaith y bydd ar waith gallai'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol wneud y canlynol:

Diogelu eich hunaniaeth rhag cael ei dwyn

Mae dwyn hunaniaeth neu dwyll yn golygu bod rhywun yn defnyddio eich hunaniaeth, er enghraifft, i agor cyfrifon ffug, i wneud ceisiadau am fenthyciadau, i brynu nwyddau dros y ffôn neu'r rhyngrwyd, neu i fabwysiadu un o'ch cyfrifon banc. Trwy gofrestru a defnyddio eich cerdyn i brofi pwy ydych gallwch eich diogelu eich hun a helpu i leihau dwyn hunaniaeth. Nod y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yw bod yn fwy diogel na'r ffyrdd cyfredol o brofi pwy ydych. Bydd yn ei gwneud yn anodd dros ben i rywun arall eich dynwared, hyd yn oed os yw eich cerdyn adnabod ganddynt, oherwydd dim ond chi sy'n cyfateb i'ch biometreg. Rhagor am ddiogelwch rhag dwyn hunaniaeth a thwyll

Diogelu pobl hawdd eu niweidio rhag rhai sydd wedi dweud celwydd i gael swyddi atebol

Mae angen ichi wybod bod pobl mewn swyddi atebol (megis nanis, pobl sy’n gofalu am yr henoed, rhai sy’n gwarchod plant, ac ati) yn dweud y gwir am bwy ydynt. Mae data biometrig yn y cerdyn adnabod yn golygu y gallai darpar gyflogwr gadarnhau pwy yw ymgeisydd am swydd yn gyflym ac yn ddidrafferth.  Gallai’r Swyddfa Gofnodion Troseddau ddefnyddio Cyfeirif Adnabod (IRN) yr ymgeisydd hefyd i wirio nad oes ganddynt gofnod trosedd, er enghraifft. Bydd defnyddio’Gr IRN yn cyflymu chwiliadau o’r fath yn sylweddol. (Gweld astudiaeth achos sy'n dangos y fantais hon.)

Cynnig dull cyfleus a phrofedig o brofi eich oedran

Pa un a ydych yn rhywun ifanc sydd am briodi diod mewn tafarn neu'n rhywun mewn oed sydd am hawlio gostyngiad wrth deithio, bydd y cerdyn adnabod hwylus yn cynnig ffordd ddiogel o brofi eich oedran. (Sut y gallai hyn weithio'n ymarferol)

Cyflymu llawer o drafodion cyffredin

OUnwaith y byddwch wedi cofrestru gyda'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol bydd gennych ffordd gyflym a diogel o brofi pwy ydych pryd bynnag y mae angen gwneud hynny, er enghraifft trwy gymharu eich cerdyn adnabod a'ch biometreg neu eich PIN. (Sut y gallai hyn weithio'n ymarferol.)

Ei gwneud yn haws ichi deithio yn Ewrop

Gyda cherdyn adnabod o'r DU sy'n dangos eich cenedligrwydd byddwch yn cael mynd i wledydd yn Ewrop heb angen eich pasport. Bydd y cerdyn yn lleihau amser gwirio hefyd mewn porthladdoedd ac wrth ffiniau.

Ei gwneud yn haws ichi brofi pwy ydych

Ni fydd angen cadw llawer o ddogfennau adnabod - dim ond un cerdyn cyfleus na all neb ond chi ei ddefnyddio, gan mai chi'n unig sydd â'r fiometreg sy'n gysylltiedig â'ch cerdyn adnabod. Ni fydd angen ichi fod â'r cerdyn gyda chi bob amser, ac os oes angen ichi brofi pwy ydych heb y cerdyn gallwch wneud hynny trwy ddarparu rhai manylion am danoch eich hun ynghyd â biometreg, megis olion bysedd neu PIN.

Ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel ichi ddefnyddio'r rhyngrwyd

Ni fydd yr un angen am gofio rhes o enwau a chyfrineiriau - cewch ddefnyddio eich cerdyn adnabod a'ch PIN ar-lein. Bydd eich cerdyn yn eich helpu i fewngofnodi'n ddiogel i wasanaethau a gall ddarparu 'llofnod' digidol hefyd. Gyda hwn gallwch awdurdodi trafodion pwysig a ffurflenni cais, gan roi mwy o hyder i chi ac i ddarparwr y gwasanaeth yn y busnes.

Ei gwneud yn haws cael dogfennau yn lle rhai a gollwyd neu a ddygwyd

Os collwch eich cerdyn adnabod neu eich pasport, neu os cânt eu dwyn, y cyfan y bydd angen ichi ei wneud fydd mynd i swyddfa leol lle y gellir gwirio pwy ydych yn ôl eich biometreg. Caiff eich dogfennau gwreiddiol eu canslo fel na all neb arall geisio eu defnyddio a byddwch yn cael rhai newydd.

Diogelu eich preifatrwydd

Dyfeisiwyd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol gan gadw eich preifatrwydd mewn cof. Dim ond y wybodaeth fwyaf sylfaenol sydd ar y cerdyn ei hun (delir gwybodaeth fwy manwl amdanoch yn ddiogel yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR), a dim ond cyrff defnyddwyr achrededig a fydd yn cael defnyddio'r NIR i wirio pwy ydych.

Yn ôl i'r tudalen blaenorol