Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Beth yw manteision y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol?

Manteision i fusnesau a chyrff eraill

Yn achos busnesau a chyrff preifat bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn:

Cynnig ffordd ddiogel a dibynadwy o wirio pwy yw cwsmeriaid

Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, y gellir diogelu cytundebau morgeisi neu fenthyciadau yn well ac y bydd yn haws i werthwyr ffoniau symudol wirio pwy sy'n gwneud contractau. (Astudiaeth achos sy’n dangos y fantais hon.) Rhoddir 'cyfeirif trafod' i gyrff bob tro y byddant yn gwirio pwy yw cwsmer fel y gallant gadw cofnod archwilio.

Helpu cyflogwyr i wirio hunaniaeth a statws cyflogaeth ymgeiswyr am swyddi

Bydd y cynllun yn helpu cyflogwyr yn gyffredinol i ddilysu gweithwyr newydd er mwyn sicrhau eu bod pwy maent yn honni bod. Yn achos rhai swyddi mae'n bwysig gwirio nad oes gan yr ymgeisydd gofnod trosedd, er enghraifft. Yn y dyfodol gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio eu Cyfeirif Adnabod (IRN) i wirio cofnodion yr heddlu. Hefyd, am fod rhaid i wladolion tramor sy'n aros yn y DU am ragor na thri mis gofrestru gyda'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol, bydd yn hawdd i ddarpar gyflogwyr wirio eu statws cyflogaeth.

Darparu ystod o ddulliau gwirio sy'n cynnig gwahanol lefelau o ddiogelwch

Bydd cyrff yn cael dewis y dull dilysu mwyaf addas i'r achos. Gall hyn fod mor syml ag edrych ar y llun ar y cerdyn adnabod i weld a yw'r un peth â deiliad y cerdyn. Mewn trafodion lle mae angen lefel uchel o ddiogelwch, bydd yn bosibl gwirio biometreg neu wybodaeth hysbys arall dros y ffôn neu ar-lein.

Creu sail i system gardiau gyfleus a diogel i reoli mynediad

Mae ar lawer o fusnesau angen ffordd ddiogel i ganiatáu i weithwyr a phartneriaid busnes fynd i adeiladau neu fannau dan warchodaeth neu gael mynediad i gyfleusterau neu ddogfennau. Gallai'r cerdyn adnabod ddarparu system gyffredinol i reoli mynediad am gost isel.

Yn ôl i'r tudalen blaenorol