Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn creu dull hawdd a dibynadwy i bobl brofi pwy ydynt a'u hawl trwy hynny i wasanaethau budd-daliadau. Ar hyn o bryd mae'r systemau sy'n darparu gwasanaethau a budd daliadau yn agored i gael eu cam-drin ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n amcangyfrif bod twyll gwerth £20 miliwn a £50 miliwn mewn perthynas â budd-daliadau yn digwydd bob blwyddyn y DU (manylion y ffynhonnell).
Mae twyll ar y raddfa hon yn dwyn adnoddau oddi ar y bobl fwyaf anghenus ac mae'n annheg â'r miliynau o ddinasyddion gonest sy'n talu am y gwasanaethau a'r budd-daliadau hyn trwy dalu treth ac Yswiriant Gwladol.
TYn y pen draw bydd y cerdyn adnabod yn disodli'r holl ddogfennau a ddefnyddir i'r diben hwn ar hyn o bryd, gan wneud bywyd yn haws i rai sy'n hawlio ac i rai sy'n gwirio eu hawliadau.