Gall troseddwyr gopïo gwybodaeth bersonol (o ddatganiad banc, er enghraifft) neu ddwyn neu ffugio dogfennau - megis biliau trydan neu nwy - a ddefnyddiwn ar hyn o bryd i brofi pwy ydym.
Nod y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yw bod yn llawer mwy diogel nag unrhyw beth a ddefnyddiwn ar hyn o bryd. Mae diogelwch yn rhan annatod o'r system fel a ganlyn:
Delir data biometrig ar y cerdyn a'r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR).
Gall troseddwr ddwyn eich cerdyn, ond ni ellir dwyn eich data biometrig unigryw oddi arnoch. Byddai unrhyw un sydd am drafod arian, er enghraifft, yn cael gwirio'r data biometrig yn ôl y rhai sydd ar yr NIR. Os nad yw'n ddeiliaid cofrestredig y cerdyn byddai'r gwirio hwn yn methu.
Mae gan bob cerdyn adnabod gyfeirif nad yw ond yn hysbys i ddeiliad y cerdyn.
Mae llun biometrig o wyneb deiliad y cerdyn ar bob cerdyn. Mae hwn yn edrych yn debyg i ffotograff a gellir ei ddefnyddio i wirio'n gyflym mai'r cwsmer sy'n cyflwyno'r cerdyn yw gwir ddeiliad y cerdyn.
Rydym yn disgwyl y bydd y diogelwch gwell a gynigir gan y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn:
ei gwneud yn fwy anodd dwyn hunaniaeth a thwyllo
atal pobl rhag gwneud yn y dyfodol
ei gwneud yn llawer haws dal ac erlyn rhai sy'n ceisio dwyn hunaniaeth a thwyllo.