Amcangyfrifir bod 430,000 o fewnfudwyr anghyfreithlon yn y DU (manylion am y ffynhonnell), ac ar hyn o bryd nid oes gan gyflogwyr ddull dibynadwy o benderfynu a yw ymgeisydd am swydd â hawl i weithio yma ai peidio.
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn helpu cyflogwyr i gael gwybod am statws mewnfudo ymgeiswyr am swyddi ac am unrhyw gyfyngiadau ar fisâu sy'n golygu na chânt weithio'n gyfreithlon yn y DU. Bydd hyn yn cyflymu' broses wirio a gallai fod o fantais i'r mewnfudwyr hynny sydd â hawl i weithio. Gallai fod o help hefyd i adnabod pobl sy'n ceisio gweithio yma'n anghyfreithlon a gallai gadw mewnfudwyr anghyfreithlon rhag dod i'r DU.