Gwyddys bod terfysgwyr a throseddwyr yn defnyddio enwau ffug a lluosog i gelu eu gweithgareddau, i osgoi cael eu hadnabod ac i drafod arian yn anghyfreithlon.
Bydd y 'gwiriad ôl troed bywgraffyddol' yn ei gwneud yn anodd iawn cofrestru gyda’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol dan ffugenw, ac nid fydd y cynllun yn caniatáu i bobl gofrestru fwy nag unwaith gan y byddai’n bosibl adnabod eu data biometrig. Er na all y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol atal terfysgaeth, gall ei gwneud yn llawer anos i derfysgwyr gelu pwy ydynt.
Bydd y cynllun yn helpu'r gwasanaethau diogelwch yn eu harchwiliadau i droseddu cyfundrefnol a therfysgaeth a helpu i warchod y DU rhag bygythiadau i ddiogelwch y wlad.
Gall y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol gael ei ddefnyddio hefyd gan yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch i ddibenion adnabod. Er enghraifft, gellid adnabod unrhyw olion bysedd ar ôl trosedd (gan gynnwys troseddau sydd heb gael eu datrys) nad ydynt yng nghofnodion yr heddlu trwy chwilio am olion cyfatebol yn y data biometrig sydd yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR). Bydd hyn yn cyflymu archwiliadau yn fawr a gall hyd yn oed arwain at adnabod pobl a gymerodd ran mewn troseddau sydd heb gael eu datrys hyd yn hyn. (Gweld astudiaeth achos sy'n dangos y fantais hon.)