Mae IPS wedi ymrwymo i hybu cydraddoldeb, tegwch a pharch. Rydym yn creu amgylchedd gwaith lle mae amrywioldeb yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu, ac wrth inni weithio tuag at ein nodau busnes, rydym yn ymwneud yn llawn â'n cymdeithas amrywiol. Rydym yn cymryd gofal i asesu effaith ein polisïau ar hil, crefydd a chred, rhyw, hunaniaeth rywiol, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol a barn wleidyddol (yng Ngogledd Iwerddon) ac oedran.
Fel rhan o' polisi byddwn yn gwneud y canlynol:
cyflogi gweithlu sy'n adlewyrchu, ar bob lefel, amrywioldeb y cymunedau a wasanaethir ganddo a'r gymdeithas gyfan
trin ein holl staff a'n cwsmeriaid gydag urddas a pharch
datblygu ein holl staff i wireddu eu potensial llawn
gweithredu mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau cyfle cyfartal
sicrhau bod ein prosesau recriwtio, dethol, arfarnu, hyfforddi a dilyniant gyrfa yn deg, yn wrthrychol ac yn rhydd rhag rhagfarn neu stereoteipio.