Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Gyrfaoedd

Ein proses recriwtio a dethol

Y cam cyntaf inni yn y broses o wneud cais yw ystyried eich cais ysgrifenedig. Byddwn yn edrych yma ar sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a restrwyd yn yr hysbyseb am y swydd. Yn achos rhai swyddi mae'n bosibl y byddwn yn gofyn wedyn ichi ddod i ganolfan asesu.

Mae'r ffurflen gais yn rhan allweddol o'r broses ddethol. Defnyddir y dystiolaeth a roddir gennych yn y ffurflen gais i werthuso i ba raddau yr ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a geir yn y swydd-ddisgrifiad.

Wrth ichi ymuno ag IPS, byddwch yn cael eich gwirio o ran diogelwch, gan gynnwys gwiriadau gan yr Heddlu.

Cenedligrwydd

Mae pob swydd IPS yn agored i Wladolion Prydeinig, Personau Prydeinig a Warchodir, Dinasyddion y Gymanwlad, Gwladolion yr AEE o aelod wladwriaethau eraill a rhai aelodau teuluoedd yr AEE. Ni ddylai fod cyfyngiad ar gyflogaeth na therfyn amser ar y cyfnod y caniateir ichi aros yn y DU.

Gan ddibynnu ar y swydd bydd gofyn ichi fod wedi preswylio yn y DU am isafswm o 3 neu 5 mlynedd.

Yn ôl i'r tudalen blaenorol