Mae IPS wedi datblygu set o werthoedd craidd sy'n hybu ymddygiad priodol gan staff ar bob lefel, sef:
Gweithio gyda'n Gilydd
Cydweithio'n fodlon gydag eraill i gyrraedd nod cyffredin - gan rannu gwybodaeth, arbenigedd a sgiliau.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Darparu gwasanaeth cyson, effeithlon o ansawdd sy'n ymateb i gwsmeriaid Ymdrechu o hyd i ragori.
Ymateb i Newid
Arddel a chefnogi newid, bod â meddwl agored a dysgu trwy brofiad.
Gwerthfawrogi Pobl
Derbyn a pharchu eraill am eu gwybodaeth, eu harbenigedd a'r gwahaniaethau rhyngddynt, gan adnabod a chydnabod eu potensial a'u cyflawniadau, a'u galluogi i berfformio.
Cyfrifoldeb personol
Bod yn gyfrifol am weithredoedd a phenderfyniadau gan unigolion a'r sefydliad Gweithredu mewn modd unplyg ac ymroddgar.