Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl i unrhyw un gael mynediad i wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys adrannau llywodraeth ganolog. Golyga hyn y gallwch wneud cais am wybodaeth inni.

Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys adrannau llywodraeth ganolog megis y Swyddfa Gartref, awdurdodau a chynghorau lleol, meddygon teulu ac ysbytai, ysgolion a sefydliadau addysgol eraill, gwasanaeth yr heddlu a'r lluoedd arfog, a chyrff cyhoeddus eraill.

Sylwer: mae'r Ddeddf yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I wybod am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn yr Alban, gweler gwefannau Senedd yr Alban a Chomisiynydd Gwybodaeth yr Alban.