Unwaith y bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol ar waith yn llawn, pan fyddwch yn gwneud cais a chael eich cerdyn adnabod eich hun, byddwch yn cael manteision. I grynhoi, bydd y cynllun yn symleiddio'r broses o brofi pwy ydych, gan wneud trafodion cyffredin yn haws. Bydd hefyd yn gwneud eich hunaniaeth yn fwy diogel ac yn helpu i leihau lefelau twyll hunaniaeth trwy'r gymdeithas.