Unwaith y bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol ar waith yn llawn, bydd pob math o fusnesau a chyrff, gwasanaethau cyhoeddus ac adrannau’r llywodraeth, yn cael gwirio pwy yw pobl trwy’r gwasanaeth gwirio hunaniaeth. Galwn y rhain yn ‘gyrff achrededig’ a cheir adran ar y wefan hon iddynt ei defnyddio.
(I wybod rhagor am sut mae asiantaethau'r llywodraeth a chyrff yn y sector cyhoeddus yn cael defnyddio'r cynllun hwn gweler (Darparu gwasanaethau cyhoeddus di-dâl a budd-daliadau.)
Dyma sampl yn unig o'r math o gyrff a busnesau y mae disgwyl iddynt ddefnyddio'r cynllun er mwyn gwirio pwy yw eu cwsmeriaid:
Bydd llawer mwy o gwmnïau a chyrff yn defnyddio'r cynllun er mwyn gwirio statws mewnfudo darpar weithwyr ac er mwyn sicrhau bod pobl sy'n gwneud ceisiadau am swyddi atebol yn dweud y gwir amdanynt eu hunain.
Cyn y gall corff wirio hunaniaeth neb bydd yn rhaid iddo gael ei achredu'n llawn gan y cynllun. Unwaith y bydd wedi ei achredu bydd yn agored i archwiliadau parhaus er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau'r cynllun. Nid fydd yn cael gwirio pwy ydych ond gyda'ch cydsyniad. Bydd gwirio fel hyn yn cadarnhau pwy ydych neu ffeithiau hysbys eraill, megis manylion eich cyfeiriad o'r NIR.