Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

News

Cyflogwyr cyfrwys i ddod o dan y lach am ddulliau gweithio anghyfreithlon

Thursday 24th Mai 2007
Mae mesurau newydd i atal twyll yn golygu na all oedolion sy’n gwneud cais am eu pasport cyntaf erioed adael pethau tan y funud olaf.

O 1 Mehefin ni fydd oedolion sy’n gwneud cais am eu pasport cyntaf yn cael defnyddio’r gwasanaeth cyflym un wythnos, wrth i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) gyflwyno cyfweliadau wyneb-yn-wyneb fel rhan o’r broses o wneud cais am basport.

Meddai Bernard Herdan, Cyfarwyddwr Gweithredol IPS dros Ddarparu Gwasanaethau:

"Os ydych yn bwriadu teithio i wlad dramor yn yr haf eleni gofalwch fod eich pasport ar ben eich rhestr o ‘bethau i’w gwneud’ a gwnewch hynny nawr, cyn ichi drefnu eich gwyliau.

"Am fod dwyn hunaniaeth pobl ar gynnydd, mae datblygiadau newydd yn cael eu cyflwyno i fynd i’r afael â thwyll a ffugio pasportau. Bydd y cyfweliadau’n fyr ac y syml, ac maent yn ffordd hawdd ac effeithiol o amddiffyn hunaniaeth ein cwsmeriaid, gan ei gwneud yn anos o lawer i dwyllwr gael pasport."

Mae’r cyfweliadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer cwsmeriaid 16 oed neu drosodd neu’n gwneud cais am eu pasport cyntaf. Maent yn cael eu cyflwyno ynghyd â mesurau eraill i atal twyll a ffugio pasportau, i amddiffyn cyhoedd y DU rhag dwyn hunaniaeth, ac i sicrhau bod y pasport Prydeinig yn parhau i fod un o’r rhai mwyaf diogel a mwyaf eu parch ledled y byd.

Mae’n rhaid i oedolion neu’n gwneud cais am eu pasport cyntaf ganiatáu wy o amser i wneud hynny: mae IPS yn argymell caniatáu chwe wythnos. Cynghorir cwsmeriaid yn daer i beidio â threfnu taith hyd nes derbyn eu pasportau.

Bydd y gwasanaeth cyflym un wythnos yn parhau i fod ar gael fel arfer i bob cwsmer arall am basport, megis rhai sy’n adnewyddu pasport.

I wybod rhagor am y cyfweliadau am basportau

Nodiadau i olygyddion

  1. Sefydlwyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fel asiantaeth weithredol i’r Swyddfa Gartref ar 1 Ebrill 2006. Mae’n adeiladu ar seiliau cadarn Gwasanaeth Pasportau’r DU (UKPS) i ddarparu gwasanaethau pasportau ‘r cyhoedd ac, fel rhan o’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol a sefydlwyd trwy Ddeddf Cardiau Adnabod 2006, bydd yn gyfrifol am gyflwyno’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol. Mae datblygiad y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn adeiladu ar sail y newidiadau sy’n cael eu gwneud i basportau er mwyn darparu ffordd ddiogel a syml o ddiogelu hunaniaethau personol rhag cael eu camddefnyddio.
  2. Cyhoeddwyd y byddai’r gwasanaeth cyflym i oedolion sy’n gwneud cais am eu pasport cyntaf ar 20 Mawrth 2007 (Hysbysiad y Swyddfa Gartref i’r wasg 053/2007).
  3. I wybod rhagor gweler www.ips.gov.uk neu ffoniwch Linell Gyngor IPS ar0870 5210410.
  4. Yn achos ymholiadau gan y cyfryngau a cheisiadau am gyfweliadau yn ymwneud ag IPS a phasportau a ryddheir yn y DU, cysylltwch â Desg Newyddion y Swyddfa Gartref ar 020 7035 3535.

Return to previous page |