Mawrth 19 Mehefin 2007
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhoi grym atebolrwydd i’r cyhoedd yn nwylo dinasyddion - amddiffyniad hanfodol yn erbyn yr heriau a grëwyd gan chwyldroadau mewn technoleg, teithio a chymdeithas, meddai gweinidog y Swyddfa Gartref Liam Byrne mewn cynhadledd yn Chatham House heddiw.
Mae trawsnewidiadau megis y cynnydd aruthrol mewn defnyddio’r rhyngrwyd, yr ymchwydd mewn teithio rhyngwladol, a’r cynnydd rhyfeddol yn y wybodaeth bersonol a gynigir i gwmnïau preifat gan eu cwsmeriaid yn dod â phosibiliadau newydd i ddinasyddion Prydeinig ond mae’n dwyn risgiau newydd hefyd, i ffiniau, i gymunedau ac i unigolion. Gan ddadlau fod y Cynllun yn "fudd i gyhoedd yr 21ain ganrif ", dywedodd Mr Byrne y bydd technoleg hunaniaeth y Llywodraeth yn rhwym o ddod yn rhan o fywyd beunyddiol - ond ei bod yn bosibl y bydd angen rhagor o oruchwyliaeth gan y Llywodraeth.
Meddai Liam Byrne:
"Mae’r newidiadau hyn, o hyper-symudoledd nwyddau, cyllid a phobl i’r cysylltiadau cyflym ar y rhyngrwyd sydd bellach yn gyffredin, yn creu posibiliadau newydd i bobl Prydain ond maent yn golygu heriau a risgiau newydd hefyd."
"Oni bai ein bod yn buddsoddi mewn systemau hunaniaeth rydym yn gadael ein buddiannau a’n heconomi’n agored i gael eu cam-drin, rydym yn gadael unigolion yn ddiymgeledd rhag twyll ac rydym yn agored i’r perygl o afael y buddiannau a’r diogelwch yr ydym wedi gweithio mor galed i’w cael, yn agored i ymosod. Yn erbyn cefndir y risgiau hyn, mae’n annhebygol mai’r rhai mwyaf llwyddiannus a fydd yn dioddef gyntaf - ond y rhai sy’n methu fforddio eu hamddiffyn eu hunain."
"Yn yr un modd â’r rheilffyrdd yn y 19eg ganrif neu’r grid cenedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, bydd y system hunaniaeth genedlaethol cyn bo hir yn rhan o wead bywyd Prydain. Mewn 20 mlynedd, mae’n siŵr gen i y bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhan annatod o fywyd pob dydd ym Mhrydain - sefydliad cenedlaethol arall y byddai’n amhosibl meddwl am fywyd cyfoes hebddo, sut fywyd bynnag fydd bywyd yn 2020."
Tynnodd y Gweinidog sylw at risg gynyddol twyll hunaniaeth i’;r DU gan ddefnyddio tystiolaeth o lansiad graddol fisâu biometrig yn y DU:
Mewn ymateb i’r heriau newydd, rhybuddiodd y Gweinidog ei gynulleidfa ein bod eisoes yn gweld systemau diogelwch biometrig yn amlhau mewn modd diberthynas a heb atebolrwydd.
Wrth gloi trwy ddweud bod y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol o fudd i’r cyhoedd yn yr 21ain ganrif, ymrwymodd Mr Byrne y Llywodraeth i atal costau a dywedodd y byddai angen cryfhau trefniadau atebolrwydd i’r senedd, gan amlinellu cynnydd ar bum menter ar y cyd:
NODIADAU I OLYGYDDION