Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Press releases archive

Wyneb newydd dogfennau teithio yn y DU - Gwasanaeth Pasbort y DU yn cyflwyno'r e-basbort cyntaf

Monday 5th March
Mae Gwasanaeth Pasbort y DU wedi sicrhau ei le fel un o’r rhai balenaff yn y ras ryngwladol i atal twyll a ffugio pan ryddhaodd yr e-Basbort  Prydeinig biometrig cyntaf heddiw.

Bydd y pasbortau newydd yn wahanol eu diwyg ac yn cynnwys nodweddion diogelwch newydd, gan gynnwys sglodyn gyda biometreg wyneb y deiliad. Fe’u cyflwynir yn raddol trwy gydol 2006 ac feu rhyddheir i bob ymgeisydd erbyn diwedd mis Awst.

Mae’r datblygiadau technolegol hyn yn cael eu mabwysiadu ledled y byd e mwyn gwneud dogfennau teithio a mannau rheoli ffiniau yn fwy diogel, ac mae dros 40 o wledydd yn y broses o gyflwyno e-Basbortau. Mae’n rhaid i wledydd fel y DU, sy’n rhan o gynllun fisâ’r Unol Daleithiau, gydymffurfio â safonau newydd y Corff Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO) a dechrau rhyddhau pasbortau biometrig sy’n cynnwys llun o’r wyneb er mwyn  cael aros yn y cynllun erbyn Hydref 2006.

Meddai Gweinidog y Swyddfa Gartref Andy Burnham:

" e-Basbortau yw’r cam cyntaf o ran cael dogfennau adnabod biometrig diogel. Nid yn unig y byddant yn gwneud pasportau Prydeinig yn fwy cyson a diogel, byddant hefyd o help i adnabod dogfennau a ffugiwyd neu a newidiwyd tra’n cadarnhau pwy yw’r deiliad.

"Mae technoleg fiometrig yn defnyddio’r nodweddion unigryw sydd gan bob un ohonom ac nid oes amheuaeth y bydd defnyddio gwybodaeth fiometrig i gysylltu rhywun gyda phasbort yn gwella diogelwch. Yn unol â’n partneriaid yn Ewrop byddwn hefyd yn ystyried cynnwys olion bysedd yn ogystal â data am wynebau maes o law.

"Trwy’r byd, mae mwy a mwy o wledydd yn gweithredu er mwyn sicrhau bod eu dogfennau teithio’n ddiogel. Mae dinasyddion Prydeinig yn haeddu pasportau o’r ansawdd uchaf ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y DU ar y blaen."

Mae’r DU yn cyflwyno biometreg yn ei phasbortau er mwyn:

Ar y tu allan, bydd y Pasbort Biometrig newydd i’w weld yn debyg iawn i’r, un presennol, er y bydd â logo arno yn dweud bod sglodyn y tu mewn. Y tu mewn, bydd y sglodyn i’w weld a bydd llawer o nodweddion diogelwch newydd eraill gan gynnwys tudalennau sy’n cynnwys patrymau cywrain a dyfrnodau newydd cymhleth.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae’r UKPS a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn rhyddhau’r pasbort digidol cyfredol er 1998. Er mwyn sicrhau newydd rhwydd o basbortau digidol, cyflwynir y pasbort biometrig yn raddol dros gyfnod o bum mis yn 2006. Yn ystod camau cyntaf y newid, bydd rhai pobl yn derbyn pasbort biometrig newydd, ond bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn parhau i pasbort digidol. Bydd pasportau sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn parhau’n ddilys hyd eu dyddiad terfyn ac ni fydd gofyn i ddeiliaid eu cyfnewid am basbortau biometrig.
  2. Mae pasportau biometrig yn ei gwneud yn bosibl adnabod nodweddion biolegol unigryw a phryd a gwedd rhywun. Mae enghreifftiau o ddulliau adnabod biometrig yn cynnwys yr wyneb, olion bysedd a phatrwm lliw’r llygaid.
  3. Mae dulliau adnabod wynebau yn mapio rhai o nodweddion yr wyneb, er enghraifft, y pellterau rhwng  y llygaid, y trwyn, y geg a’r clustiau. Bydd y mesuriadau’n cael eu troi’n gôd digidol a’u cadw ar sglodyn electronig ar y tudalen yn y pasbort. Gellir defnyddio hwn wedyn i ddibenion cymharu a gwirio. Bydd UKPS yn cael tynnu biometreg wynebau ymgeiswyr o’u lluniau pasbort.
  4. Enwodd y Corff Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO – sy’n pennu safonau rhyngwladol) ddulliau adnabod wynebau fel y prif fiometreg gyda lliw’r llygaid ac olion bysedd fel dulliau wrth gefn ond heb fod yn orfodol.
  5. Bydd gan y pasbort biometrig newydd lawer o nodweddion diogelwch newydd gan gynnwys sglodyn. Bydd y diwyg newydd yn anos ei ffugio, bydd y nodweddion diogelwch newydd yn dangos a yw’r pasbort yn ddilys neu a oes ymyrryd wedi bod a bydd biometreg yr wyneb ar y sglodyn o help i gysylltu deiliad y pasbort â’r ddogfen.
  6. Pris y pasbort safonol 10 mlynedd i oedolyn yw £51. Mae UKPS yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella diogelwch y telir amdanynt trwy’r ffi am basbort.
  7. Bu UKPS a’r FCO, sy’n gyfrifol am ryddhau pasportau dramor, wedi bod yn cydweithio’n agos ar ddatblygu eBasbortau sydd ar gael eisoes gan Gonswladau Prydeinig Cyffredinol yn Washington a Cairo. Cwblheir y broses o gyflwyno eBasbortau i fannau tramor erbyn Gorffennaf 2006.
  8. Cyhoeddodd Senedd UDA ar 15 Mehefin 2005 estyniad o flwyddyn (hyd 26 Hydref 2006) i’r gofyn am basbortau biometrig. Golyga hyn y bydd y pasportau digidol a ryddheir ar hyn o bryd gan UKPS a’r FCO (y gall peiriant eu darllen, gyda llun digidol) barhau i fodloni holl feini prawf y Rhaglen Hepgor Fisâu (Visa Waiver Programme neu VWP) ac na fydd angen i’r rhan fwyaf o Ddinasyddion Prydeinig fod â fisa i UDA. Bydd yn rhaid i bob pasbort a rhyddheir ar neu ar ôl 26 Hydref 2006 fod yn fiometrig er mwyn cael ei ddefnyddio heb fisa i deithio i UDA. I wybod rhagor am reolau fisa a mewnfudo UDA gweler www.usembassy.org.uk neu www.fco.gov.uk.

Nôl i'r dudalen flaenorol