Mesur cardiau adnabod yn derbyn cydsynias brenhinol
Thursday 30th March 2006
Derbyniodd y Mesur Cardiau Adnabod Gydsyniad Brenhinol heddiw, gan wneud yn
statud fesurau pwysig a fydd yn helpu Prydain i wynebu her yr 21ain ganrif.
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn darparu dull cyffredin, diogel iawn
i holl breswylwyr y DU dros 16 oed i ddiogelu eu hunaniaeth.
Enw’r asiantaeth newydd a fydd yn rhyddhau pasportau a chardiau adnabod
fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS). Bydd yn ymgorffori Gwasanaeth
Pasportau’r Deyrnas Unedig (UKPS) a bydd yn cydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth
Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref, a daw yn weithredol ar 1 Ebrill
2006.
Meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Charles Clarke:
"Mae gallu prifi pwy ydym ni yn hanfodol mewn cymdeithas heddiw. Gan
adeiladu ar sail profiad a rhagoriaeth amlwg y Gwasanaeth Pasportau, bydd yr
IPS yn sicrhau bod y DU ar flaen y gad mewn ymgais ar draws y byd i wneud dogfennau’n
fwy diogel, i ddiogelu ffiniau ac i warchod hunaniaeth y rhai sydd â hawl
iddynt.
" Rwy’n credu y daw’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol â manteision
mawr. Bydd yn rhoi ffodd syml a chyfleus i breswylwyr y DU brofi pwy ydynt;
atal mewnfudo anghyfreithlon a gwirio anghyfreithlon; helpu i fynd i’r
afael â throseddu cyfundrefnol a therfysgaeth; a chynnig dull o warchod
rhag camddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Craidd y cynllun fydd cronfa ddata
genedlaethol ddiogel yn cysylltu manylion personol sylfaenol â gwybodaeth
fiometrig unigryw a fydd yn cryfhau, nid gwanhau, rhyddid sifil trwy ddiogelu
hunaniaeth unigolion."
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol, sydd i gael ei gyflwyno’n raddol
dros nifer o flynyddoedd, yn cysylltu gwybodaeth bersonol sylfaenol, megis
enw a chyfeiriad, â biometreg ddiogel – sef llun cyfrifiadurol
o liw llygaid, wyneb neu olion bysedd rhywun. Mae’r rhain yn unigryw
ac yn cynnig diogelwch i bob dinesydd yn seiliedig ar y dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd yr asiantaeth newydd yn gyfrifol am y canlynol:
rhyddhau pasportau a darparu gwasanaethau pasportau;
rhyddhau cardiau adnabod a darparu’r dull o ddilysu hunaniaeth pobl
ar gyfer cyrff achrededig;
darparu’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol gan gynnwys sefydlu’r
Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol; a
hybu defnydd o’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol ar draws y sectorau
cyhoeddus a phreifat er mwyn gwella rheoli hunaniaeth a sicrhau bod manteision
y cynllun yn cael eu gwireddu´n llawn.
Ni fydd yn orfodol cario cerdyn ac ni fydda gan yr heddlu unrhyw bwerau newydd
i fynnu gweld cerdyn. Fodd bynnag, byddai hwn yn gynllun cyffredin i bawb sy’n
preswylio’n gyfreithlon yn y DU ac, yn amodol ar ddeddfwriaeth sylfaenol
bellach, bydd yn orfodol cofrestru ar y cynllun.
Nodiadau i Olygyddion
Cymeradwywyd y Mesur Cardiau Adnabod gan ddau Dy’r Senedd ar
29 Mawrth 2006.
Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r DU i gyd ac mae’n:
• Sefydlu’r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol;
• Darparu pwerau i ryddhau cardiau adnabod;
• Sicrhau y gellir gwirio yn ôl cronfeydd data eraill er
mwyn cadarnhau hunaniaeth ymgeisydd a gwarchod rhag twyll;
• Amlinellu’r wybodaeth a ddelir a’r sicrwydd a fydd
yn ei le;
• Galluogi cyrff yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddilysu hunaniaeth
rhywun yn ôl y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol, gyda chydsyniad hwnnw
neu honno, i ddilysu eu hunaniaeth cyn darparu gwasanaethau;
• Cynnwys pwerau galluogi fel y gellir cyplysu mynediad i wasanaethau
cyhoeddus penodedig yn y dyfodol â chyflwyno cerdyn adnabod dilys;
a
• Darparu, trwy ddeddfwriaeth sylfaenol bellach, iddi ddod yn orfodol
cofrestru a derbyn cerdyn, gan gynnwys cosbau os na chofrestrir.
Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn weithredol ar 1 Ebrill 2006.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys yr opsiwn i beidio ag ymuno, sy’n golygu
y gall pobl sy’n gwneud cais am basport neu sy’n adnewyddu pasport
hyd 1 Ionawr 2010, ddewis peidio â chael cerdyn adnabod, er y bydd
eu manylion yn cael eu cynnwys yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol.
Hysbysebir rôl Prif Weithredwr yr Asiantaeth Newydd cyn gynted ag
y bydd hyn yn ymarferol bosibl. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus
fynd i’r swydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd yr asiantaeth newydd yn adeiladu ar sail galluoedd presennol UKPS
a datblygwyd strwythur rheolwyr hyn yn sgil ymgynghori helaeth gyda rheolwyr
ac undebau. Bydd hwn yn ei le hefyd o 1 Ebrill 2006.
Mae UKPS, Asiantaeth Weithredol y Swyddfa Gartref, yn gyfrifol am ryddhau
pasportau i wladolion Prydeinig sy’n byw yn y DU. Ei rôl yw sicrhau
unplygrwydd pob pasport a ryddheir, a bod y Pasport Prydeinig yn parhau i
fod ymhlith y rhai mwyaf diogel ledled y byd. Yn ystod y tymor brig yn y
flwyddyn 2004-05 cyflogai’r UKPS 3,303 o staff, y mae 90% ohonynt
yn gweithio yn y swyddfeydd rhanbarthol.
Yn 2004, UKPS oedd un o’r pedwar a enwebwyd (a’r unig gorff
yn y DU) ar gyfer y wobr Carl Bertelsmann am effeithlonrwydd yn y sector
cyhoeddus, a daeth yn un o’r ychydig o gyrff i ennill pumed ‘Marc
Siartr’. Yn 2005 daeth UKPS ar y brig hefyd, am yr ail flwyddyn yn
olynol, yn yr ymarfer meincnodi bodlonrwydd cwsmeriaid Comparisat.
Ar hyn o bryd mae tua 47 miliwn o basportau Prydeinig i’w cael, ac
mae 80% o’r boblogaeth yn dal pasport. Disgwylir i nifer y ceisiadau
godi i tua 7 miliwn yn 2006. Ac eithrio UDA (8 miliwn) dyma fwy nag unrhyw
wlad arall yn y byd. Bydd UKPS wedi prosesu 6.6 miliwn (y nifer uchaf erioed)
yn y flwyddyn ariannol 2005/06, tra’n parhau i ddarparu lefelau uchel
o ran bodlonrwydd cwsmeriaid, gan ragori ar y targed bodlonrwydd cwsmeriaid.
Mae’r canlynol yn derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw hefyd: y Mesur
Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd. Gellir gweld copi o´r Ddeddf ar: http://www.publications.parliament.uk (Swyddfa
Gartref PN 094/2005) a’r Mesur Terfysgaeth (hysbysiad gwasg y Swyddfa
Gartref 051/2006) Gellir gweld testun llawn y Ddeddf a nodiadau eglurhaol
ar: http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2006.htm