Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Am Gardiau Adnabod a'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol

Pam nawr?

Mae'n bryd cyflwyno'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn awr am sawl rheswm.

Mae datblygiadau diweddar mewn technoleg, ac yn enwedig mewn technoleg biometrig, yn golygu bod cynllun gwirioneddol effeithiol a diogel bellach yn bosibl.

Mae data biometrig yn dechrau cael ei ddefnyddio ar gyfer pasportau a rheoli mewnfudo ledled y byd. Er enghraifft:

Mae’r llywodraeth yn ymateb i’r newidiadau hyn ac mae wedi cyflwyno biometreg i basportau’r DU (rhagor am newidiadau diweddar i basportau’r DU) fel rhan o raglen gynhwysfawr i wella rheolaeth ar ffiniau a diogelwch, i'w gwneud yn fwy diogel teithio ac i wella darpariaeth gwasanaethau di-dâl i'r cyhoedd a budd-daliadau i'r rhai sydd â hawl iddynt.

Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo'n barod i gofnodi gwybodaeth fiometrig yn achos y 80% o ddinasyddion y DU sy'n dal; pasportau. Gydag ond ychydig o fuddsoddi ychwanegol gallwn gofrestru'r 20% arall a chreu Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol a fydd yn dwyn manteision llawer ehangach i unigolion ac i gymdeithas y DU yn gyffredinol.

Rhagor am fanteision y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol..

Yn ôl i'r tudalen blaenorol