Bydd yn cymryd sawl blynedd i'r cynllun ddod yn gwbl weithredol ac i’r holl ddinasyddion cymwys gael eu cofrestru. Byddwn yn cyflwyno gwybodaeth fiometrig ar gyfer gwladolion tramor yn 2008 a disgwyliwn y bydd y cardiau adnabod cyntaf yn cael eu rhyddhau i ddinasyddion Prydeinig yn 2009. Yn ystod cyfnod cynnar y cynllun rhyddheir cerdyn adnabod ichi os ydych yn gwneud cais am basport oedolyn cyntaf neu’n adnewyddu pasport cyfredol. Yn nes ymlaen byddwn yn dechrau rhyddhau cardiau adnabod annibynnol i bobl nad oes eisiau pasport arnynt.
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig ond yn byw yn y DU bydd eich trwydded breswyl, cerdyn preswyl neu dystysgrif gofrestru ar ffurf cerdyn adnabod (rhagor am gardiau adnabod ar gyfer gwladolion tramor).
Yn y pen draw bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn orfodol. Golyga hyn y bydd yn rhaid i bawb o drigolion y DU dros 16 oed wrth gerdyn adnabod. Fodd bynnag, ni fydd angen ichi gludo eich cerdyn adnabod gyda chi.