Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Am Gardiau Adnabod a'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol

Sut mae cael eich cerdyn adnabod a sut y bydd yn cael ei gynhyrchu

Bydd pedwar cam yn y broses o gael cerdyn adnabod:

Mae'r bumed adran yn disgrifio'r cerdyn adnabod ei hun:

Gwneud cais am gerdyn adnabod

Disgwyliwn i'r rhan fwyaf o bobl gael eu cerdyn adnabod wrth iddynt wneud cais am basport oedolyn newydd, naill ai am y tro cyntaf neu wrth adnewyddu. Rhyddheir eich llyfryn pasport a'ch cerdyn adnabod newydd gyda'i gilydd.

Wrth i'r cynllun ddatblygu bydd yn bosibl gwneud cais am gerdyn adnabod ar wahân (sef cerdyn adnabod annibynnol) os nad oes angen pasport arnoch.

Sylwer na allwch wneud cais am gerdyn adnabod tan 2009. . Yn ogystal, hyd 1 Ionawr 2010, rhoddir opsiwn i bobl ddewis peidio â derbyn cerdyn adnabod wrth iddynt dderbyn eu pasport, er y bydd eu manylion ar y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR).

Gwirio eich 'ôl troed bywgraffyddol

Eich 'ôl troed bywgraffyddol', yn syml, yw ffeithiau sylfaenol eich bywyd; er enghraifft: enw, dyddiad geni a chyfeiriad.

Wrth ichi wneud cais am gerdyn adnabod, byddwn yn gwirio eich 'ôl troed bywgraffyddol' yn ôl gwybodaeth sydd ar gronfeydd data eraill megis cofnodion Yswiriant Gwladol neu drwydded yrru. Ni fyddwn yn dibynnu'n gyfan gwbl ar ddogfennau ysgrifenedig am y wybodaeth hon (am y gellir ffugio dogfennau). Gofynnir ichi ddod i un o'n canolfannau lleol neu symudol yn bersonol lle bo modd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i rywun gymryd arno neu arni fod yn rhywun arall wrth wneud cais am gerdyn adnabod.

Cofnodi eich data biometrig

Mae biometreg yn cyfeirio at nodweddion personol unigryw, megis olion eich bysedd a lliw eich llygaid. Defnyddir enghreifftiau o dechnoleg fiometrig yn barod gan gynnwys adnabod wynebau a ddefnyddir ar y pasportau biometrig newydd.

Unwaith y byddwn wedi gwirio pwy ydych, byddwn yn cofnodi eich data biometrig. Mae cofnodi biometreg yr wyneb a lliw'r llygaid yn debyg i gael tynnu llun digidol o ansawdd uchel. Mae'n hawdd cofnodi olion bysedd hefyd ac ni ddefnyddir inc. Rydych yn gwasgu eich bysedd ar beiriant darllen.

Caiff y manylion biometrig hyn eu 'selio' neu eu paru am byth gyda'ch gwybodaeth fywgraffyddol er mwyn creu data diogelu hunaniaeth hollol unigryw.

Rhyddhau eich cerdyn adnabod

Y cam olaf yw rhyddhau eich cerdyn adnabod. Cynhyrchir pob cerdyn yn ôl safon a fformat cyffredin ond, oherwydd y wybodaeth sydd arno, bydd eich cerdyn yn unigryw i chi. Anfonir y cerdyn atoch trwy gludiant diogel.

Am eich cerdyn adnabod

Bydd eich cerdyn adnabod yr un maint â cherdyn credyd a bydd yn dangos eich enw a llun o'ch wyneb fel y gellir eich adnabod yn gyflym a hawdd.

Bydd hefyd yn cynnwys sglodyn a fydd yn dal gwybodaeth bersonol amdanoch ynghyd â'ch data biometrig. Bydd y wybodaeth hon ar gael ar yr NIR hefyd.

Bydd pob cerdyn yn cynnwys:

Yn ôl i'r tudalen blaenorol