Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |

Am Gardiau Adnabod a'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol

Sut y bydd y cynllun yn gweithio

Yn saesneg yn unig. The National Identity Scheme will be managed by the Identity and Passport Service (IPS). The IPS incorporates the former UK Passport Service and will build on their experience and expertise in confirming nationality and identity. The IPS will also work closely with the UK Borders Agency (UKBA) and UKvisas.

Bydd comisiynydd annibynnol yn goruchwylio'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol ac yn adrodd i'r Senedd.

Rhannau allweddol y cynllun yw:

Cofrestru

Mae’r broses yn golygu cofrestru eich hunaniaeth wrth ichi wneud cais am gerdyn adnabod. Mae hyn yn cynnwys creu 'ôl troed bywgraffyddol'o ffeithiau sylfaenol am eich bywyd a chofnodi eich data biometrig.

Mae cofrestru eich gwybodaeth fiometrig yn rhan hanfodol bwysig o ddiogelu eich hunaniaeth. Bydd canolfannau cofrestru lleol ledled y DU a chanolfannau symudol ar gyfer ardaloedd anghysbell er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn i gynifer o bobl â phosibl.

Y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR)

Bydd yr NIR yn gronfa ddata newydd a diogel iawn sy'n dal gwybodaeth bersonol am hunaniaeth a data biometrig am rywun sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun.

Ni fydd yr NIR ond yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â hunaniaeth. Ni fydd cofnodion meddygol, treth a budd-daliadau a chofnodion eraill y llywodraeth ar yr NIR. Fodd bynnag, byd y Cyfeirif Adnabod (IRN) yn ffordd gyflym i'r corff perthnasol wirio cofnodion unigol o fewn eu systemau eu hunain, gan ychwanegu at effeithlonrwydd ac osgoi defnyddio'r cofnodion anghywir.

Cardiau adnabod

Unwaith y daw'r cynllun i rym yn llawn gellir rhyddhau cardiau adnabod fel dogfennau ar wahân neu ynghyd â 'dogfennau penodedig' megis pasportau.

Os ydych o wlad dramor sy'n byw yn y DU, eich cerdyn adnabod fydd eich trwydded breswyl, eich cerdyn preswyl neu eich tystysgrif gofrestru a bydd yn gysylltiedig â'r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR) yn yr un modd â phob cerdyn adnabod arall.

Yr hyn sy'n gwneud y cynllun yn ddiogel yw'r ffaith bod eich hunaniaeth yn cael ei gwirio a'i chadarnhau, nid trwy eich cerdyn adnabod yn unig ond trwy ddefnyddio'r gwasanaeth dilysu hunaniaeth i wirio eich cerdyn adnabod yn ôl eich cofnod ar yr NIR. Byddai cerdyn adnabod ffug, er enghraifft, yn ddiwerth heb gofnod cyfatebol.

Y gwasanaeth gwirio hunaniaeth

Bydd y gwasanaeth gwirio hunaniaeth yn creu dull i gyrff achrededig wirio pwy yw pobl. Mae hyn yn golygu y bydd gennych ddull diogel a chyfleus o brofi pwy ydych mewn sawl sefyllfa, megis wrth agor cyfrif banc neu gofrestru gyda meddyg teulu, er enghraifft.

Mae'r gwasanaeth gwirio hunaniaeth yn gweithredu ar wahanol lefelau gan ddibynnu ar y wybodaeth sy'n angenrheidiol. Er enghraifft:

Er mwyn gwarchod eich preifatrwydd, bydd angen i bob corff sydd am ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio hunaniaeth fod yn achrededig, a bydd arnynt angen eich cydsyniad cyn iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth i wirio pwy ydych.

Yn ôl i'r tudalen blaenorol