System hawdd ei defnyddio a diogel dros ben yw'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol o adnabod oedolion unigol sy'n byw yn y DU. Ei gonglfaen yw cyflwyno cardiau adnabod cenedlaethol ar gyfer pawb dros 16 oed sy'n preswylio yn y DU.
Bydd pob cerdyn adnabod yn unigryw a bydd yn cyfuno data biometrig deiliad y cerdyn â manylion a wiriwyd ac a gadarnhawyd am eu hunaniaeth, sef 'ôl troed bywgraffyddol'. Bydd y manylion hyn yn cael eu storio yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol (NIR). Cedwir gwybodaeth sylfaenol am hunaniaeth hefyd mewn sglodyn ar y cerdyn adnabod ei hun.
Mae'r dechnoleg hon yn dwyn llawer o fanteision yn ei sgil, gan gynnwys rhagor o ddiogelwch rhag dwyn hunaniaeth neu dwyll (dymunaf wybod rhagor am fanteision y cynllun hwn).
Trwy'r cynllun, a redir gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS), caiff cyrff achrededig - gyda'ch caniatâd - ddefnyddio eich cerdyn adnabod a'r NIR i wirio pwy ydych.