Am Gardiau Adnabod a'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol
Pam mae angen y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol?
Rhan sylfaenol o fywyd cyfoes yw medru profi pwy ydych. Mae angen dull mwy cadarn a diogel o wirio bod hunaniaeth rhywun yn wir bod pobl y bobl y maent yn honni bod.
Ac wrth i ragor ohonom siopa neu fancio dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio cardiau debyd a chredyd, mae nifer yr enwau, y rhifau adnabod a'r cyfrineiriau y mae'n rhaid inni eu cofio er mwyn profi pwy ydym ar gynnydd o hyd. Er enghraifft, mae'n rhaid inni brofi pwy ydym bob tro y byddwn yn:
teithio i wlad dramor
agor cyfrif banc neu wneud cais am fenthyciad
casglu pecyn o'n swyddfa ddidoli leol
ymuno â llyfrgell
gwneud cais am fudd-daliadau.
Yn gyffredinol, ein system gyfredol wrth wirio hunaniaeth yw gwirio'r unigolyn yn ôl dogfen, a all fod yn rhywbeth o drwydded yrru i fil nwy neu drydan. Mae'r dull hwn yn iawn am y tro, ond mae nifer o broblemau cysylltiedig:
mae gwahanol gyrff yn gwirio hunaniaeth mewn gwahanol ffyrdd gan ddefnyddio gwahanol ddogfennau
gellir newid neu ffugio biliau nwy neu drydan a dogfennau tebyg yn hawdd gan bobl sydd am greu hunaniaeth ffug
gall troseddwyr ddwyn dogfennau a'u defnyddio i ffugio hunaniaeth arall.
Mae'r canlyniadau'n amlwg:
mae troseddwyr a therfysgwyr yn defnyddio sawl hunaniaeth i gelu eu gweithgareddau
gellir rhyddhau pasportau i bobl na ddylent eu cael
mae gwladolion tramor yn cael byw a gweithio yn y DU yn anghyfreithlon
public services are abused by people not entitled to receive them.