1.1 Mae'r telerau ac amodau ("Telerau") yn rheoli eich defnydd o'r wefan hon ("Y Wefan").
1.2 Mae'r Wefan hon yn eiddo i Wasanaeth Hunaniaeth a Phasportau'r Deyrnas Unedig ("IPS"), asiantaeth weithredol o'r Swyddfa Gartre, ac fe'i rhedir ganddo.
1.3 Darllenwch y telerau hyn yn ofalus, trwy barhau i gael mynediad i'r Wefan a'i defnyddio tybir eich bod wedi deall y Telerau ac yn cytuno â hwy.
2.1 Nid yw IPS yn gwneud unrhyw warantau neu osodiadau ymhlyg am y Wefan hon neu am unrhyw Wybodaeth ar y Wefan hon (“Gwybodaeth”) ac mae’n eithrio o’r Telerau hyn bob gwarant ymhlyg i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
3.1 Ni fwriedir i’r Wybodaeth fod yn gyngor neu’n wasanaeth cyfreithiol, cyfrifyddu, busnes, ariannol na threthi proffesiynol, ac nid yw’n cyfrif fel y cyfryw.
3.2 Cais IPS sicrhau bod yr holl Wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond nid yw’n gwarantu cywirdeb, perthnasedd cyfredol, cyflawnder, perthnasedd neu addasrwydd i bwrpas y Wefan hon neu unrhyw Wybodaeth sydd arni. Dylech wirio cywirdeb, gwerth cyfredol, cyflawnder, perthnasedd neu addasrwydd i bwrpas y Wefan hon neu unrhyw Wybodaeth sydd arni’n annibynnol.
3.3 I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae IPS yn eithrio atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled uniongyrchol, anuniongyrchol, ddamweiniol neu ôl-ddilynol, colled o elw neu unrhyw golled economaidd o unrhyw fath arall, boed mewn contract, camwedd neu fel arall, yn deillio o ddefnyddio’r Wefan hon neu unrhyw Wybodaeth sydd arni neu mewn cysylltiad â hynny.
4.1 Mae’r gwefannau neu’r tudalennau ar y we sydd â dolenni i’r Wefan hon i ddibenion gwybodaeth yn unig. Oni ddywedir fel arall yn unig swydd, nid yw IPS yn rheoli, yn cadarnhau, yn noddi nac yn cymeradwyo cynnwys y cyfryw wefannau neu dudalennau ar y we ac nid yw IPS yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am unrhyw golledion neu gosbau a geir wrth ichi ddefnyddio unrhyw ddolenni o’r fath neu ddibynnu ar gynnwys unrhyw wefan neu dudalennau ar y we sydd â dolen i’r Wefan hon.
4.2 Ni chewch fframio neu gysylltu’r Wefan hon ag unrhyw wefan arall heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan IPS.
5.1 Mae IPS yn gwneud ymdrechion rhesymol i amddiffyn y Wefan hon rhag firysau cyfrifiadurol, mwydod a cheffylau caerdroea (“Nodweddion Dinistriol”) ond nid yw’n gwarantu bod y Wefan hon yn rhydd rhag Nodweddion Dinistriol o’r fath ac nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod a all ddigwydd o ganlyniad i drosglwyddo unrhyw Nodwedd Ddinistriol trwy’r Wefan hon neu drwy unrhyw ffeiliau a ddarperir ichi eu lawrlwytho o’r Wefan hon.
6.1 Ac eithrio lle y dywedir fel arall yn unig swydd, mae’r Wybodaeth yn ddarostyngedig i amddiffyniad hawlfraint y Goron.
6.2 Ac eithrio lle y dywedir fel arall yn unig swydd, ni chaniateir ichi addasu neu amodi’r Wybodaeth neu unrhyw ran ohoni.
7.1 Gall IPS ofyn am wybodaeth gennych (“Gwybodaeth Bersonol”), megis manylion am wybodaeth bersonol sydd i’w darparu gan unigolion yr ydych am iddynt gael mynediad i’r adeiladau a/neu’r ystafelloedd data, er mwyn eich galluogi i gael mynediad i;r Wefan hon a’i defnyddio.
7.2 Delir y Wybodaeth Bersonol a ddarperir gennych mewn modd diogel ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1988.
7.3 Ni fydd IPS ond yn defnyddio Gwybodaeth Bersonol o’r fath er mwyn darparu ei wasanaethau neu wybodaeth a geisiwyd gennych.
7.4 Gall IPS roi mynediad i’ch Gwybodaeth Bersonol a gesglir ganddo i’w weithwyr, contractwyr ac asiantau. Gofynnir i weithwyr, contractwyr ac asiantau IPS sydd â mynediad i’ch Gwybodaeth Bersonol gadw’r wybodaeth honno’n gyfrinachol ac ni chaniateir iddynt ei defnyddio i unrhyw ddibenion ar wahân i ddarparu’r gwasanaethau neu’r wybodaeth a geisiwyd gennych.
7.5 Mae IPS yn cadw’r hawl i gasglu gwybodaeth mewn perthynas â defnyddio’r Wefan hon. Wrth ichi ddod i’r Wefan hon gellir storio ychydig o ddata a elwir yn “cookie” ar yrrwr disg caled eich cyfrifiadur. Mae IPS yn defnyddio “cookies” i’w helpu i fonitro sut mae’r Wefan yn cael ei defnyddio, sydd yn ei dro’n ei helpu i sicrhau bod y Wefan yn berthnasol i’w defnyddwyr. Gallwch ffurfweddu eich porwr ar y we i wrthod “cookies”. Sylwer ei bod yn bosibl na chewch fynd at rai rhannau o’r Wefan hon neu ddefnyddio rhai o’i nodweddion os byddwch yn gwrthod “cookie”.
8.1 Mae IPS yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddewis ei hun, i newid unrhyw ran o’r Wefan hon, y Wybodaeth neu’r Telerau hyn. Os bydd IPS yn newid y Telerau hyn, bydd IPS yn cyhoeddi manylion am y newidiadau ar y Wefan. Bydd unrhyw newidiadau’n dod i rym wrth iddynt gael eu cyhoeddi ar y Wefan hon.
9.1 Os penderfynir bod y Telerau hyn neu unrhyw ran ohonynt yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy mewn unrhyw fodd arall dan ddeddfau unrhyw awdurdodaeth lle y bwriedir i’r Telerau hyn fod yn effeithiol, yna i’r graddau y maent felly’n annilys neu’n anorfodadwy, fe’i trinnir yn yr awdurdodaeth honno fel petaent wedi’u diddymu a’u dileu o’r Telerau hyn a bydd y Telerau sydd weddill yn goroesi ac yn parhau mewn grym llawn.
10.1 Ni fydd IPS yn gyfrifol am unrhyw dorri ar y Telerau hyn a achoswyd gan amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol.
11.1 Llywodraethir a dehonglir y Telerau hyn yn unol â chyfraith Lloegr a bydd IPS a chwithau’n ymostwng yn ddiamod i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Lloegr.