Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon fel cyfrwng i hyrwyddo digwyddiadau yn y dyfodol ac anogir cyflenwyr i edrych ar y tudalennau hyn yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
Expressions of interest are invited to attend a five day sandpit to develop academic/ industry multidisciplinary research and innovation consortia from 12 to 17 November 2007. For further information visit the Engineering and Physical Sciences Research Council (EPSRC). (Opens in a new windo
Yn Saesneg yn unig.
Pwysleisiodd y Cynllun Gweithredu Strategol i'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol pa mor bwysig oedd cysylltu â diwydiant cyn lansio'r broses gaffael. Fel rhan o hyn ac mewn ymateb i fewnbwn gan y farchnad, cynhaliodd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) gyfres o weithdai mewn cydweithrediad â'r corff masnach 'Intellect'.
Cynhaliwyd y rhain dros gyfnod o chwe wythnos, a bu ystod eang o bobl o wahanol feysydd arbenigol o ragor na thrigain o gwmnïau'n cymryd rhan. Trefnwyd gweithdai ar sawl maes allweddol a bu cyflwyniadau gan IPS am y syniadau cyfredol a chyfleoedd i'r rhai a gymerodd ran drafod materion sut mae eu trin yn y ffordd orau. Mae ymwneud o'r fath yn unol ag arfer gorau ac mae IPS yn ddiolchgar am y cyfraniadau gan Ddiwydiant ac i Intellect am eu cefnogaeth a'u gwaith yn hwyluso deialog o'r fath. Bu'r sesiynau'n ddefnyddiol iawn a chafwyd tri chanlyniad allweddol i IPS:
Er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal i rai sydd â diddordeb mewn cyflenwi, cyhoeddwyd crynodeb o'r adborth o bob gweithdy, sy'n cynnwys y deunydd a gyflwynwyd i'r rhai a fynychodd y gweithdai, gan IPS ac fe ellir ei lawrlwytho isod.
Esgorodd pob sesiwn ar allwn gwerthfawr gan ennyn dadlau iach ynghylch yr heriau sy'n wynebu IPS a Diwydiant ill dau. Codwyd sawl thema ac ystyriaeth o bwys yn ystod y gweithdai y mae IPS yn eu cydnabod ac y bydd yn parhau i roi pwyslais mawr arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
Sylwer y bydd y dolenni hyn yn agor ffenestr bori newydd.
Mynychodd James Hall, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau, gyfarfod gyda chynrychiolwyr y diwydiant systemau, integreiddio a thechnoleg ar 7 Tachwedd 2006. Trefnwyd y cyfarfod gan y corff masnach ‘Intellect’ ac fe’i mynychwyd gan tua deg a thrigain o bobl.
![]()
Lawrlwytho Acrobat Reader I ddarganfod mwy ynglyn â sut
i ymweld â pdfs: Ewch
i Adobe. Os nad ydych yn medru darllen ffeiliau fformat PDF,
yna gallwch ddefnyddio offerynnau
cyfnewid Adobe Access Ar-lein i gael y fersiwn testun