Mae'r adran hon o'r wefan Cardiau Adnabod yn darparu gwybodaeth a fydd o ddiddordeb i'r farchnad o ddarpar gyflenwyr cynnyrch a gwasanaethau i IPS ac i'r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn y dyfodol.
Mae'r Rhaglen IPS mewn cysylltiad â'r farchnad o gyflenwyr ers peth amser trwy broses a elwir "market soundings". Dyma'r broses o asesu ymateb y farchnad i ddull arfaethedig o bennu gofynion a chaffael, ac fe'i cydnabyddir fel arfer gorau o ran caffael gan y Llywodraeth.
Wrth i gynlluniau caffael ddatblygu disgwylir y bydd angen deialog bellach gyda'r farchnad It er mwyn sicrhau bod strategaethau'n briodol ac yn addas.