Gweithio gyda ni
Bwriedir yr adran hon ar gyfer y busnesau a'r cyrff hynny, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus ac adrannau'r llywodraeth, a fydd yn cydweithio â ni ar y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol. Maent yn perthyn i ddau grwp:
-
Cyflenwyr , sef y busnesau hynny a fydd yn darparu cynnyrch a nwyddau neu wasanaethau sydd eu hangen arnom i gynnal y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol. Am fod y cynllun yn parhau i gael ei gynllunio, nid ydym wedi cadarnhau ein cyflenwyr eto.
- Budd-ddeiliaid, sef y busnesau a'r cyrff, y gwasanaethau 'a'r adrannau hynny o'r llywodraeth a fydd yn defnyddio'r cynllun. Er enghraifft, mae'r budd-ddeiliaid allweddol yn cynnwys banciau a sefydliadau ariannol eraill yn ogystal â'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr Heddlu, y Swyddfa Gofnodion Troseddau, yr Adran Addysg a Sgiliau a'r Adran Iechyd. Am fod y cynllun yn parhau i gael ei gynllunio, bydd gan y budd-ddeiliad hyn gyfle i gymryd rhan mewn datblygu'r cynllun.