Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Phasbortau biometrig

Pam mae'r DU wedi cyflwyno biometreg i'w phasport?

Mae bygythiad cynyddol twyll hunaniaeth yn ei gwneud yn angenrheidiol cryfhau nodweddion diogelwch mewn pasportau. Mae’r Mudiad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO – sy'n pennu safonau rhyngwladol) wedi enwebu adnabod wynebau fel y brif fiometreg gyda lliw’r llygaid ac olion bysedd wrth gefn ond heb fod yn orfodol. Gall defnyddio gwybodaeth fiometrig i gysylltu rhywun â phasport fod o help i atal twyll hunaniaeth. Yn ymarferol, gellir defnyddio dilysu biometrig wrth dderbyn mewnfudwyr ac i ddilysu’r llun ar gais i adnewyddu pasport yn ôl y lluniau sydd yn y cofnod.

Defnyddir gwybodaeth fiometrig hefyd i’r dibenion a ganlyn:

Sut mae biometreg wynebau'n gweithio?

Mae’r system adnabod wynebau’n mapio gwahanol nodweddion ar yr wyneb, er enghraifft, y pellter rhwng y llygaid, y trwyn, y geg a’r clustiau. Mae’r mesuriadau hyn yn cael eu cadw ar ffurf cod digidol ar sglodyn electronig yn y pasport. Gellir defnyddio hwn wedyn i ddibenion cymharu a dilysu. Mae technoleg fiometrig yn berffaith ddiogel am fod modd codi biometreg wyneb o lun pasport o ansawdd da. Gallwch lawrlwytho pdf o safonau lluniau pasport IPS yma (1.6MB, ffenestr newydd)

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.