Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Hanes pasportau (o’r 15fed ganrif i’r presennol)

Y pasportau modern cyntaf (1915 a 1920)

Pasportau hyd y Rhyfel Byd Cyntaf

Ar ddechrau’r rhyfel yn 1914, argreffid pasportau ar bapur a chynhwysent lun o ddeiliad y pasport. Y pris oedd 6ch (chwe hen geiniog).

Dechreuodd y system pasportau cyfoes mewn gwirionedd adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ddechreuodd y gwladwriaethau ryddhau pasportau er mwyn gwahaniaethu rhwng eu dinasyddion eu hunain a thramorwyr.

Pasiwyd Deddf Cenedligrwydd Prydeinig a Statws Estroniaid 1914 fel rhan o’r broses hon.

Pasport 1915

Daeth Deddf Cenedligrwydd Prydeinig a Statws Estroniaid 1914 i rym yn 1915. O ganlyniad rhyddhawyd y pasport Prydeinig modern cyntaf yn y flwyddyn honno. Dogfen un-ddalen oedd hi wedi’i phlygu’n wyth gyda chlawr cardfwrdd. Yr oedd y pasport newydd yn ddilys am ddwy flynedd a gellid ei adnewyddu am gyfnodau pellach o ddwy flynedd ar y tro.

Cynhwysai’r pasport lun o’r deiliad. Cynhwysai’r pasport lun o’r deiliad. Dangosai hefyd lofnod a disgrifiad personol manwl yn cynnwys y canlynol:

Geni’r pasport 32-tudalen (1920)

Ni pharhaodd cynllun 1915 yn hir. Ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben, cynhaliodd Cynghrair y Cenhedloedd gynhadledd ryngwladol ar basportau yn 1920. Yn y gynhadledd cytunwyd ar gynllun newydd ar ffurf llyfr i basportau yn achos aelod-wladwriaethau Cynghrair y Cenhedloedd.

Ym Mhrydain, lansiwyd y Gwasanaeth Pasportau modern yr un pryd â’r pasport newydd.

Yr oedd y pasport Prydeinig newydd ar ffurf y llyfr glas 32-tudalen (yr ‘Old Blue’), sy’n dal yn gyfarwydd i lawer o bobl. Fe’i ceid ar ddau fformat:

Ni newidiodd pasportau fawr ddim yn 50 mlynedd nesaf, ond yn 1954 gollyngwyd enw’r Ysgrifennydd Gwladol o’r testun ar y tudalen cyntaf.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.