Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Hanes pasportau (o’r 15fed ganrif i’r presennol)

Newidiadau i ‘Old Blue’ (1968—1984)

Pasportau 10 mlynedd (1968) a newid yn yr 1970au

Yn 1968, cyflwynwyd y pasportau 10 mlynedd cyntaf. Ar wahân i hynny, ni fu fawr o newid mewn pasportau tan yr 1970au. Degawd oedd hwn pan ddechreuai mwy a mwy o bobl deithio dramor. Am fod mwy o basportau’n cael eu rhyddhau, ac am eu bod yn cael eu defnyddio’n amlach, daeth diogelwch yn fwyfwy pwysig.

Diweddaru diogelwch a mân newidiadau (1972-1984)

Ar ddiwedd 1972, cyflwynwyd fersiwn newydd o’r pasport glas. Defnyddiai bapur diogelwch glas gyda dyfrnod arbennig i’w gwneud yn anos ffugio’r pasport.

Ymhlith y newidiadau eraill yn 1972 caed:

O 1975, cafodd lluniau mewn pasportau eu lamineiddio er mwyn ei gwneud yn anos rhoi lluniau eraill yn eu lle. Yn 1981, gwnaed y laminad hwn yn fwy diogel fyth trwy gynnwys trosbrint a fyddai’n dangos yn glir a oedd y laminad wedi cael ei dynnu.

Gwnaed un mân newid yn 1984, pan hepgorwyd galwedigaeth a gwlad breswyl deiliad y pasport o dudalen 2.

Teithwyr mynych (1973)

Ym Mai 1973, cyflwynwyd pasport 94-tudalen ar gyfer teithwyr mynych sy’n llenwi’r llyfr 30-tudaloen safonol gyda fisâu yn gyflym.

Pasport glas newydd (1988)

Erbyn 1988, yr oedd cynlluniau ar droed i ryddhau pasportau cyfrifiadurol er mwyn creu pasportau y gall peiriant eu darllen. Er mwyn wneud hyn yn haws, digwyddodd o gam i gam.

Y cam cyntaf oedd rhoi’r gorau i gyhoeddi pasportau teuluol neu ar y cyd. Felly, ym mis Gorffennaf 1988 rhyddhawyd pasport glas newydd heb le i w^r neu wraig. Yn y fersiwn hwn gollyngwyd hefyd y sôn am daldra a nodweddion neilltuol deiliad y pasport o dudalen 2.

Mae’r adran nesaf yn edrych ar basportau bwrgandi y gall peiriant eu darllen a chyflwyno pasportau Ewropeaidd

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.