Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Hanes pasportau (o’r 15fed ganrif i’r presennol)

Hanes pasportau yn y DU – golwg gyffredinol

Bydd y dolenni sydd wedi’u goleuo yn mynd â chi i dudalennau sy’n cynnwys gwybodaeth fwy manwl.

Dyddiad Achlysur
1414 Cyfeirir at ‘Safe Conducts’ (y pasportau cynharaf) mewn Deddf Seneddol yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri V.
1540 Cychwyn Cofrestr y Cyfrin Gyngor, gan roi inni gofnod o fusnes y Cyfrin Gyngor. Yn ôl y Gofrestr, mae hyn yn cynnwys caniatáu pasportau.
1641 Mae pasport o’r dyddiad hwn wedi goroesi. Fe’i rhyddhawyd ar 18 Mehefin a’i lofnodi gan y Brenin Siarl I.
1644-1649 Dengys cyfeiriadau yn Nyddlyfr Ty^’r Cyffredin fod Ty^’r Cyffredin a Thy^’r Arglwyddi yn caniatáu papurau mynediad i dramorwyr a deiliaid Prydeinig yn ystod y blynyddoedd hyn.
1772 Hyd y dyddiad hwn ysgrifennwyd pasportau mewn Lladin neu Saesneg. O’r dyddiad hwn ymlaen fe’u hysgrifennir mewn Ffrangeg (ond gweler 1858).
1794 O’r dyddiad hwn ymlaen rhyddheir pasportau gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’u cofnodi. (Cyn y dyddiad hwn rhyddhawyd pasportau a’u llofnodi gan y brenin neu’r frenhines.)
1858

O’r dyddiad hwn ymlaen cyfyngir y pasport o ddeiliaid cenedligrwydd y Deyrnas Unedig. (Cyn hyn gellid rhyddhau ‘pasport’ i unrhyw un o unrhyw genedligrwydd fel addewid ‘tramwy diogel’ gan y brenin neu’r frenhines.)

Dechreuwyd ysgrifennu pasportau mewn Saesneg o’r dyddiad hwn, wedi iddynt gael eu hysgrifennu mewn Ffrangeg er 1772.

1914

Dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn hyn argraffwyd pasportau Prydeinig ar bapur ac yn cynnwys llun o ddeiliad y pasport.

Pasio’r Ddeddf Cenedligrwydd a Statws Estroniaid. Ledled y byd â gwladwriaethau ati i ryddhau pasportau fel ffordd o wahaniaethu rhwng eu dinasyddion a phobl eraill y meddylient amdanynt fel ‘estroniaid’.

1915 Rhyddhau’r pasport Prydeinig modern cyntaf. Dogfen un ddalen wedi’i phlygu sy’n ddilys am ddwy flynedd.
1918 Diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
1920 Mae Cynhadledd Ryngwladol Cynghrair y Cenhedloedd ar Basportau’n cytuno ar ffurf llyfryn ar gyfer pasportau.
1954 O’r dyddiad hwn nid yw pasportau Prydeinig yn cynnwys enw’r Ysgrifennydd Gwladol.
1961 Cyflwynir y Pasport Ymwelwr Prydeinig. Mae ar gael o Swyddfeydd Post y Goron a gellir ei ddefnyddio i ymweld â Gorllewin Ewrop.
1968 Rhyddhau’r pasportau 10 mlynedd cyntaf.
1972 Ceir mân newidiadau i’r pasport, er enghraifft, mae gan y papur a ddefnyddir dyfrnod arbennig er mwyn diogelwch.
1973 Cyflwyno pasport 94 tudalen ar gyfer teithwyr mynych.
1975 Lamineiddio lluniau pasport er mwyn diogelwch fel ei bod yn anos newid y llun.
1981 Defnyddir trosbrint ar y laminad er mwyn gwneud diogelwch yn well eto.
1984 Nid yw manylion galwedigaeth a phreswyl ar basportau bellach.
1988

Ni ryddheir pasportau ‘teulu’ neu ‘ar y cyd’.

Rhyddhau’r pasportau lliw bwrgandi cyntaf y DU f y gall peiriant eu darllen.

Cyflwynir fformat cyffredin ar gyfer pasportau aelod wladwriaethau’r Gymuned Ewropeaidd.

1995 Dod â’r Pasport Ymwelwyr Prydeinig i ben.
1997 Rhyddheir pasportau’r DU gyda chyfeiriad at yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf.
1998

Mae Mesurau diogelwch newydd gan gynnwys defnyddio delwedd ddigidol o’r wyneb yn hytrach na llun wedi’i lamineiddio, a phrintio intaglio neu lythrennau wedi codi y tu mewn i'r cloriau blaen ac ôl.

Ni ellir cynnwys plant dan 16 oed ar basportau oedolion newydd erbyn hyn ond rhaid iddynt fod â phasport plentyn ar wahân.

2005 Mae UKPS yn bwriadu defnyddio biometreg adnabod wynebau mewn pasportau o ddiwedd 2005/dechrau 2006.
2006 26 Hydref - Dechreuodd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau gynhyrchu pasportau 100% biometrig sy'n cydymffurfio â rhaglen hepgor fisâu UDA.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.