Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Am y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbort

Sefydlwyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fel Asiantaeth Weithredol i’r Swyddfa Gartref ar 1 Ebrill 2006.  Mae’r Asiantaeth yn adeiladu ar seiliau cadarn Gwasanaeth Pasportau’r DU er mwyn darparu gwasanaethau pasportau ac yn y dyfodol, fel rhan o’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol, gardiau adnabod i wladolion Prydeinig a Gwyddelig sy’n preswylio yn y DU.

Mae’r pasport yn ddogfen unigryw o bwysig. Mae’n darparu tystiolaeth sy’n dderbyniol ledled y byd am genedligrwydd rhywun. Mae dal pasport yn caniatáu i ddinasyddion y DU arfer un o’u hawliau sylfaenol, sef gadael y wlad a dychwelyd iddi.

Mae datblygiad y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn adeiladu ar sail y newidiadau sy’n digwydd i basportau er mwyn cynnig ffordd ddiogel a syml o ddiogelu hunaniaethau personol rhag cael eu camddefnyddio.

Mae IPS yn cydweithio’n agos â’r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo, UKvisas a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i ddarparu safonau gwasanaeth cyson ar gyfer dogfennau adnabod ar draws y sefydliadau hyn.  Mae gan yr Asiantaeth rôl allweddol i’w chwarae o ran trawsffurfio sut mae'r llywodraeth yn rhyngweithio â dinasyddion a busnesau yn y DU trwy ddatblygu safonau cyffredin mewn rheoli hunaniaeth.

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.