Dyluniwyd safle’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) i fod yn gynhwysol a darparu mynediad i bawb sy’n ei ddefnyddio, ni waeth am anabledd technolegol neu gorfforol.
Dyluniwyd y tudalennau fel bod gwybodaeth ar gael i bawb, gan gynnwys defnyddwyr
ag anableddau.
Mae pob templad wedi cael ei gymeradwyo gan Bobby i flaenoriaeth 2 (AA) a
gwiriwyd pob rhybudd gan Bobby yn unigol.
Y materion allweddol a ystyriwyd gennym i sicrhau hygyrchedd yw’r canlynol:
Mae Safon Bysellau Mynediad Llywodraeth y DU yn berthnasol i’r safle hen. Mae’n cynnig ‘llwybr tarw’ trwy’r bysellfwrdd i ddefnyddwyr sydd am fynd yn syth at rannau penodol o’r safle, ac mae o gymorth i rai sydd heb ddyfais pwyntio megis llygoden.
Defnyddiwyd is-set o'r safon ac mae’r bysellau mynediad fel a ganlyn:
S – Anwybyddu’r llyw
1 - Hafan
2 - Pethau newydd
3 - Map o’r safle
5 – Cwestiynau Cyffredin (FAQ)
8 – Telerau ac amodau
9 – Cysylltu â ni
0 – Manylion am fysellau mynediad
Mae bysellau mynediad yn gweithio braidd yn wahanol gan ddibynnu ar y porwr a’r math o gyfrifiadur sydd gennych. I grynhoi:
Mae pob delwedd ar y testun hwn yn dod gyda thestun amgen cryno sy’n disgrifio’r ddelwedd neu ei swyddogaeth fel y bo’n briodol. Nid yw'r testun amgen (alt-text) hwn ond yn weladwy fel arfer pan fydd teclyn llwytho delweddau awtomatig y porwr wedi ei ddiffodd.
Ysgrifennir pob dolen destun fel ei bod yn gwneud synnwyr y tu allan i’w
chyd-destun.
Mae dolenni â safleoedd allanol yn agor mewn ffenestr bori newydd.
Mae dolenni â dogfennau yn agor mewn ffenestr bori newydd.
Gallwch ddarllen ffeiliau PDF trwy ddefnyddio meddalwedd Adobe Reader, sydd ar gael ar gyfer llawer o systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys Windows, Macintosh, Linux a Palm. I wybod rhagor am pdfs hygyrch ewch i Access Adobe (ffenestr newydd) . Am ragor o help gyda ffeiliau Acrobat yn gyffredinol ac am ddolen i lawrlwytho Acrobat Reader ewch i wefan Adobe (ffenestr newydd) .
Dyluniwyd y testun ar y safle hwn gan ddefnyddio gwerth amhenodol mewn taflen arddull. Golyga hyn ei bod yn hawdd i ddefnyddwyr newid maint y testun trwy eu porwr.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0870 521 0410 (gweler telerau ac amodau). Calls are
charged at 8p per minute from a BT landline; live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day