Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Rwyf am addasu fy mhasport (newid fy enw)

Newid enwau a phasportau

Os ydych wedi newid eich enw’n ddiweddar, neu os ydych yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol agos, Bydd yn rhaid ichi newid yr enw ar eich pasport os ydych am deithio dramor.

Mae hyn yn golygu y bydd eich pasport cyfredol yn cael ei ganslo ac y byddwn yn rhyddhau pasport 10 mlynedd safonol newydd. Byddwn yn credydu eich pasport newydd gydag amser ychwanegol (hyd at naw mis) o’r amser sy’n weddill ar eich hen basport.

Beth sy’n digwydd os yw enw fy mhlentyn ar fy mhasport?

Os oes gennych blentyn ar eich pasport cyfredol ni ellir ei gynnwys neu ei chynnwys ar eich pasport newydd oherwydd mae’r rheolau wedi newid. Bydd yn rhaid ichi wneud cais am basport plentyn ar ei ran neu ar ei rhan.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.