Yn ôl Deddf Herwgydio Plant 1984 mae’n drosedd i unrhyw un sydd â chysylltiad â phlentyn dan 16 oed gipio neu anfon y plentyn hwnnw o’r Deyrnas Unedig heb gydsyniad priodol.
Yn gyffredinol, nid oes gan dad plentyn gyfrifoldeb awtomatig fel rhiant oni bai ei fod yn briod neu wedi bod yn briod â mam y plentyn. Fodd bynnag, oddi ar 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon, 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr a 4 Mai 2006 in Scotland mae gan dad gyfrifoldeb fel rhiant hefyd os bydd yn cofrestru'r enedigaeth ar y cyd â mam y plentyn. Gellir caniatáu cyfrifoldeb iddo fel rhiant gan y llys hefyd.
Gall rhywun sydd â gorchymyn preswyl fynd â’r plentyn neu anfon y plentyn o’r Deyrnas Unedig heb gydsyniad am hyd at fis ar y tro.
Rhyddheir gorchymyn preswyl dan Adran 8 o Ddeddf Plant 1989. Mae’n cadarnhau gyda phwy y mae plentyn i fyw. Mae’r sawl a enwir yn y gorchymyn yn cael cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig os nad yw ganddo neu ganddi eisoes, ond nid yr unig gyfrifoldeb fel rhiant.
Mae hyn yn golygu na all fynd â’r plentyn o’r wlad am ragor na mis na newid enw’r plentyn heb gydsyniad pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant neu orchymyn llys.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.