Gallwch wneud cais am Basport Prydeinig os ydych yn perthyn i un o’r categorïau isod.
Ar 1 Ionawr 1983, daeth pawb a oedd yn ddinesydd y Deyrnas Unedig a’i Threfedigaethau ar 31 Rhagfyr 1982, ac sydd â hawl i breswylio* yn y DU, yn ddinesydd Prydeinig.
* DS Gall fod rhai unigolion sydd â hawl i fyw yn y DU ond sydd heb hawl i breswylio yn y DU yn ôl Deddf Mewnfudo 1971, ac na fyddant felly’n dod yn ddinasyddion Prydeinig – gweler isod
Mae hynny’n cynnwys pobl
Mae BDTCs yn bobl y mae eu dinasyddiaeth yn dod trwy gysylltiad â thiriogaeth yn dal yn ddibynwlad Brydeinig, megis Gibraltar neu Bermuda, er enghraifft.
O 21 Mai 2002, daeth y rhan fwyaf o ddeiliaid pasport BDTC yn ddinasyddion Prydeinig yn awtomatig. Digwyddodd hyn pan ddaeth Deddf Tiriogaethau Prydeinig Tramor 2002 i rym. Yr eithriad i hyn yw rhai y mae eu statws yn dod yn unig trwy gysylltiad ag Akrotiri a/neu Dhekelia yng Nghupros.)
Ar yr un pryd, ailenwyd dinasyddiaeth tiriogaethau dibynnol Prydeinig yn ddinasyddiaeth tiriogaethau tramor Prydeinig.
Mae’r Ddeddf yn rhoi dinasyddiaeth Brydeinig ar ben dinasyddiaeth tiriogaethau tramor Prydeinig, nid yn ei lle.
Os oeddech yn ddinesydd tiriogaethau dibynnol Prydeinig (BDTC), a dod yn ddinesydd tiriogaethau tramor Prydeinig (BOTC) ym Mai 2002, mae’r dewis gennych i adnewyddu eich pasport BDTC i basport BOTC neu i wneud cais am basport dinesydd Prydeinig.
Pan ddaw eich pasport BDTC i ben gallwch wneud cais i’w adnewyddu fel pasport BOTC yn y ffordd arferol. Nid oes angen ichi gael gwrthlofnodi’r ffurflen.
Fodd bynnag. Os dymunwch wneud cais am basport dinesydd Prydeinig, rhaid i hwn gael ei drin fel cais am y tro cyntaf, a bydd gofyn ichi ddarparu ffurflen wedi’i gwrthlofnodi a dogfennau ategol.
Ni allwch wneud cais i ddiwygio pasportau cyfredol i ddangos statws dinesydd Prydeinig. Y rheswm am hyn yw mai statws ychwanegol yw dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer y bobl hyn; bydd angen inni gadarnhau eich hawl a rhyddhau pasport 10-mlynedd newydd.
Trinnir ceisiadau yn y tiriogaethau tramor eu hunain yn yr un modd. Dychwelir eich pasport presennol ichi heb ei ganslo.
Gallwch ein helpu i brosesu eich cais trwy egluro a ydych yn gwneud cais am basport dinesydd Prydeinig neu am basport BOTC.
Mae BOCs yn bobl sydd â chysylltiad â chyn drefedigaeth Brydeinig (er enghraifft, Cenia),:
Fel arfer deiliad Prydeinig yw pobl a aned cyn 1949 a oedd â chysylltiad naill ai ag India dan lywodraeth Prydain neu â Gweriniaeth Iwerddon (De Iwerddon).
Wrth ichi wneud cais, mae’n bosibl y bydd arnoch angen fisâu ychwanegol nad ydynt yn ofynnol gan ddinasyddion Prydeinig. Dylech holi eich cwmni teithio neu’r awdurdodau, neu gonswlad neu lysgenhadaeth y DU yn y wlad yr ydych yn bwriadu mynd iddi. Gallwch gael y rhifau ffôn trwy’r gwasanaeth ymholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i gyn ddinasyddion tiriogaethau dibynnol sydd â chysylltiad â Hong Kong/
Wrth ichi wneud cais, mae’n bosibl y bydd arnoch angen fisâu ychwanegol nad ydynt yn ofynnol gan ddinasyddion Prydeinig. Dylech holi eich cwmni teithio neu’r awdurdodau, neu gonswlad neu lysgenhadaeth y DU yn y wlad yr ydych yn bwriadu mynd iddi. Gallwch gael y rhifau ffôn trwy’r gwasanaeth ymholiadau.
Mae’r term hwn yn cyfeirio at bobl a oedd â chysylltiad â thiriogaethau a arferai fod dan warchodaeth Prydain, yn wladwriaethau gwarchodedig neu’n diriogaethau trwy ymddiriedolaeth neu fandad.
Wrth ichi wneud cais, mae’n bosibl y bydd arnoch angen fisâu ychwanegol nad ydynt yn ofynnol gan ddinasyddion Prydeinig. Dylech holi eich cwmni teithio neu’r awdurdodau, neu gonswlad neu lysgenhadaeth y DU yn y wlad yr ydych yn bwriadu mynd iddi. Gallwch gael y rhifau ffôn trwy’r gwasanaeth ymholiadau.
*Sylwer: Nid yw’r rhestr hon yn derfynol ac mae sawl ffordd arall o fod yn gymwys i gael pasport y DU. Os credwch y gallwch fod yn gymwys, ffoniwch ein Llinell Gyngor am ragor o wybodaeth.
Os dymunwch wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig gweler Ble i wneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig
Sylwer bod caniatâd diderfyn i aros yn y DU, neu’r hawl i ail fynediad yn cyfeirio at statws mewnfudo. Nid yw’n rhoi hawl ichi i genedligrwydd Prydeinig na gwasanaethau pasportau Prydeinig.
Os oes cwestiwn gennych am eich statws mewnfudo dylech gysylltu â’r:
UK Borders Agency
Block C
Whitgift Centre
Croydon
Surrey
CR9 1AT
Ffôn: 0870 606 7766
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.