Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Rwyf am wneud cais am fy mhasport oedolyn cyntaf

Mae fy enw wedi newid ac yn wahanol i’r hyn sydd ar fy nhystysgrif geni/ dinasyddiad, cofrestru

Byddwn angen gweld dogfennau sy’n dangos pryd y newidiwyd eich enw a’r rheswm dros hynny.

Ar gyfer merched priod byddwn angen gweld eich tystysgrif priodas.

Ar gyfer partneriaid sifil, byddwn angen gweld eich tystysgrif partneriaeth sifil.

Os ydych wedi ail-afael yn eich enw cyn priodi byddwn angen gweld eich tystysgrif geni a derbyn datganiad ysgrifennedig gennych i ddweud eich bod wedi ail-afael yn yr enw hwnnw ar gyfer pob diben.

Ar gyfer pob achos arall byddwn angen gweld eich gweithred newid enw. Ac os ydych wedi newid eich enw mwy nag unwaith, byddwn angen gweld tystiolaeth o bob newid enw.

Mae’n rhaid ichi ddanfon copïau gwreiddiol o’ch dogfennau atom. Nid ydym yn derbyn llun-gopïau o ddogfennau neu ddogfennau sydd wedi’u lamineiddio. Fodd bynnag, fe wnawn ni dderbyn dogfennau wedi’u lamineiddio ar gyfer dibenion newid enw yn unig.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.