Mae hyn yn caniatáu ichi lewi’r ffurflen a’i hanfon atom ar-lein. Byddwn wedyn yn postio copi caled atoch. Mae angen ichi lofnodi hwn ai ddychwelyd gyda’ch lluniau ac unrhyw ddogfennau sydd eu heisiau arnom.
Lansio'r ffurflen gais ar-lein
Ar ôl inni dderbyn eich ffurflen gais wedi’i llenwi byddwn yn sganio’r manylion i’n system i greu pasport. Mae’r offer sganio a ddefnyddiwn yn soffistigedig iawn ac mae’n adnabod yr inc arbenigol a ddefnyddir i argraffu’r ffurflenni cais.
Ni fyddai ffurflen gais a argraffwyd ar brintydd pen-desg arferol yn defnyddio cyfrifiadur personol yn gallu dangos y raddfa arlliwiau fanwl ar y ffurflenni a argraffwn ni. O ganlyniad ni fyddai ein peiriant sganio’n adnabod y data ac ni fyddai modd defnyddio eich ffurflen wedi’i llenwi.
Yn ddamcaniaethol gallech e-bostio nid yn unig eich manylion ar y ffurflen gais ond hefyd luniau digidol, dogfennau wedi’u sganio a llofnod wedi ei sganio neu electronig.
Yn ymarferol nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael am nifer o resymau. Ar hyn o bryd ni all y rhan fwyaf o beiriannau sganio cyffredin anfon data sy’n ddigon manwl i’r offer arbenigol iawn sydd gennym. Hefyd mae perygl twyll, yn enwedig lladrad hunaniaeth, wrth ddefnyddio lluniau wedi’u sganio.
Rydym yn ymchwilio’n barhaus i ddulliau o wella ein gwasanaeth gan ymgorffori technoleg newydd yn ddiogel mewn ceisiadau am basportau. Bydd y safle hwn yn rhoi'r diweddaraf ichi am ddatblygiadau newydd.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.