Mae’r safonau ar gyfer lluniau pasport yn berthnasol i luniau babanod a phlant ifanc hefyd. Y rhai allweddol:
Mae’n bwysig ichi ddarparu llun cystal â phosibl o’ch plentyn.
Lluniau o blant 5 oed ac iau - Rhaid i luniau ddangos delwedd glir a chywir o’r plentyn. Byddwn yn derbyn lluniau o blant dan 5 oed â’u cegau ar agor neu â’u llygaid heb edrych i gyfeiriad y camera. Os ydych yn cael problemau i gael lluniau sy’n bodloni ein holl ofynion gwnewch eich gorau glas – cyhyd ag y bydd y llun o ansawdd da dylai fodloni ein meini prawf symlach ar gyfer plant.
Lluniau o blant 6 oed a throsodd – Rhaid i luniau o bob plentyn dros 6 oed fodloni’r safon llawn. Yr unig eithriad yw cyflwyno lluniau o blant dan 11 oed a all ddangos maint pen rhwng 21mm a 34mm o uchder, yn lle’r gofyn yn achos oedolion o 29mm i 34mm o uchder.
Mae’n bwysig iawn na ellir gweld llaw’r oedolyn mewn lluniau o fabanod a phlant ifanc. I gynnal pen y plentyn daliwch eich llaw y tu ôl i’r pen fel na ellir ei gweld yn y llun. Yn achos baban ifanc, gallech wisgo top plaen lliw golau a gorffwys y plentyn ar eich brest neu ei ddal/dal i fyny. Fel hyn ni ddylech gael eich gweld yn y llun. Awgrym arall yw gosod tywel gwyn ar sedd plentyn mewn car, gosod y plentyn yn y sedd a thynnu’r llun.
Yn anffodus ni ellir anwybyddu rhai o’r canllawiau. Mae’n rhaid i IPS allu gweld yr wyneb llawn ac, yn achos plant dros 6 mis oed, rhaid inni allu gweld lliw'r llygaid. Os ydych yn cael trafferth gwirioneddol i fodloni’r gofynion hyn awgrymwn ichi ymweld â stiwdio ffotograffydd yn hytrach na chiosg lluniau, am y gallai stiwdio eich helpu.
Os na allwch ffocysu ar y llygaid mae’n bosibl na allwn dderbyn y llun.
Ni all IPS lacio’r safonau hyn ond yn achos lluniau babanod, plant ifanc ac oedolion difrifol anabl a all gael trafferth gwirioneddol i fodloni ein safonau llymach.
Gwyddom fod golwg baban yn newid yn gyflym, ond llwyddwyd i ryddhau pasportau i fabanod a phlant ifanc ers blynyddoedd heb unrhyw broblemau ynghylch hunaniaeth a golwg y plentyn. Fodd bynnag, os dymunwch newid y llun yn ystod oes pasport pum mlynedd, gallwch wneud hynny, er nad yw’n angenrheidiol.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0870 521 0410 (gweler telerau ac amodau).
Codir tal o 8c y funud am alwadau o linell ddaear BT ac atebir pob galwad gan weithwyr byw