Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl am ei fod yn ddrutach prosesu cais cyflym. Rydym yn argymell yn gryf na ydych yn trefnu unrhyw deithio hyd nes i’ch pasport newydd gyrraedd.
Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau o fewn tua thair wythnos ar ôl iddynt gyrraedd ein swyddfa. Nid yw hyn yn cynnwys amser postio a bydd ceisiadau’n cymryd mwy o amser ar adegau prysur. Rydym yn argymell ichi ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio ac Anfon a gynigir gan detholiad o ganghennau’r Swyddfa Bost®.
Os ydych am wneud cais safonol ewch i Am y ffurflen gais.
Os oes arnoch angen eich pasport o fewn pythefnos dylech ffonio ein Llinell Gyngor ar 0300 222 0000 i wneud apwyntiad mewn un o’n swyddfeydd. Gallwn gynnig gwasanaeth Cyflym o fewn wythnos neu wasanaeth Premiwm yr un diwrnod. Rhagor am geisiadau brys.
Os nad ydych yn byw yn y DU, cewch ymgeisio'n bersonol i adnewyddu eich pasbort tra'n ymweld â'r DU. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi wneud apwyntiad mewn swyddfa basbort a rhaid darparu cyfeiriad yn y DU y gellir postio'r pasbort iddo. Dylech ffonio'n Llinell Gyngor Pasbortau 24 awr 0300 222 0000 (gweler y telerau ac amodau) i wneud apwyntiad yn un o'n swyddfeydd. Cynigiwn wasanaeth Cyflym un wythnos neu wasanaeth Premiwm yr un diwrnod. Noder nad yw'r gwasanaeth Premiwm yr un diwrnod ar gael ar gyfer pasbortau cyntaf, estyniadau i basbortau, nac i adnewyddu pasbort a gollwyd, a ddygwyd neu a ddifrodwyd. Mwy am geisiadau brys
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.