Wrth ichi wneud cais am basport newydd gofalwch eich bod yn cynnwys:
*Noder: os byddwch yn defnyddio’r ffurflen gais ar-lein, byddwn yn gwneud copi caled ac yn ei anfon atoch ichi ei lofnodi a’i wrthlofnodi. Wrth ichi ei phostio’n ôl atom dylech anfon eich lluniau, ffurflen LS01 a/neu eich pasport a ddifrodwyd a’ch tâl hefyd.
Cofiwch, wrth i’ch pasport newydd gyrraedd, edrychwch arno’n ofalus. Nodwch y cyfeirif neu gwnewch lungopi o'r tudalen sy’n dangos eich manylion a’i gadw mewn lle diogel.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.