Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Ceisiadau brys

Teithio o fewn dau ddiwrnod

Yn yr achos hwn bydd angen ichi wneud cais personol yn un o'n swyddfeydd gan ddefnyddio ein gwasanaeth Premiwm yr un diwrnod. Codir tâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn (gweler Faint yw'r gost?). Bydd angen ichi wneud apwyntiad i wneud cais mewn Swyddfa Basportau trwy ffonio ein Llinell Gyngor ar 0300 222 0000.

Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael os ydych yn gwneud cais am basport cyntaf, newid llawn / cyflawn i’r enw ar eich pasport cyfredol l, estyniad i basport, neu gael pasport newydd yn lle un a gollwyd, a ddygwyd neu a ddifrodwyd.

Gwasanaeth gwarantedig yw’r gwasanaeth Premiwm lle’r ydych yn cyflwyno eich cais ac yn casglu eich pasport yr un diwrnod, cyhyd ag y bydd eich cais yn dod i law cyn yr oriau terfyn, sef 16:00 yn Llundain, 13:30 yn Lerpwl, 13:00 yn Peterborough, 12:30 yn Glasgow a Chasnewydd a hanner dydd yn Belfast a Durham. Ar ddydd Sadwrn, mae’r gwasanaeth ar gael i ymgeiswyr sydd ag apwyntiadau cyn 11am.

Os ydych chi am i rywun gasglu eich pasport ichi, mae’n rhaid iddynt ddangos tystiolaeth am bwy ydynt a llythyr wedi’i lofnodi gennych chi sy’n rhoi caniatâd iddynt gasglu eich pasport. Os yw’r cais am basport plentyn, rhaid i’r sawl a arwyddodd adran 9 o'r ffurflen lofnodi'r llythyr. Ni allwn ryddhau pasport ond os yw’r sawl sy’n gwneud y cais yn y DU adeg y cais.

Yn Saesneg yn unig. If you are unable to attend an appointment in person a third party may submit the completed application form for you. They must provide evidence of their identity and a signed letter from you giving them permission to submit the application on your behalf. We can only issue a passport if the person applying is in the UK at the time they apply. Please be aware that if the form is not complete correctly, or the correct supporting documentation is not submitted, the application cannot be processed. Any amendments can be made only be the applicant, not the third party, a further appointment may be necessary.

Amodau’r gwasanaeth hwn

Nid yw’r warant ar y gwasanaeth hwn ond yn berthnasol os yw eich cais yn un syml ac os ydych wedi llenwi’r ffurflen yn gywir ac wedi darparu’r holl ddogfennau atodol. Os byddwch yn darparu gwybodaeth anghywir neu os na allwn gadarnhau eich bod yn gymwys o’r dogfennau a roddwyd inni, mae’n bosibl na allwn ryddhau pasport yn ôl y disgwyl.

Ein cyngor cryf yw na ddylech drefnu teithio hyd nes byddwch wedi derbyn eich pasport newydd.

Sylwer:

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.