Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Ceisiadau brys

Teithio o fewn pythefnos

Yn yr achos hwn bydd angen ichi wneud cais yn bersonol yn un o’n swyddfeydd, gan ddefnyddio naill ai ein gwasanaeth Premiwm neu Gyflym. Codir tâl ychwanegol am y gwasanaethau hyn (gweler Faint yw’r gost?). Bydd angen ichi wneud apwyntiad mewn Swyddfa Basportau a gallwch wneud hynny trwy ffonio ein Llinell Gyngor ar 0300 222 0000.

Ein cyngor cryf yw na ddylech drefnu teithio hyd nes byddwch wedi derbyn eich pasport newydd.

Noder:

Gwasanaeth Cyflym un wythnos

Ni fydd y gwasanaeth hwn ar gael os ydych yn gwneud cais am pasport cyntaf fel oedolyn o 1 Mehefin 2007.  Mae hwn yn gwarantu y bydd eich pasport yn cael ei ddarparu trwy Gludiant Diogel o fewn wythnos (heb gynnwys gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus) wedi ichi ddod â’ch ffurflen a’ch dogfennau atom. Os oes angen eich llofnod ac os nad ydych gartref pan ddaw’r pasport, nid yw’r warant un wythnos bellach yn ddilys.

Gwasanaeth Premiwm un diwrnod

Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael os ydych yn gwneud cais am basport cyntaf, newid llawn / cyflawn i’r enw ar eich pasport cyfredol l, estyniad i basport, neu gael pasport newydd yn lle un a gollwyd, a ddygwyd neu a ddifrodwyd.

Gwasanaeth gwarantedig yw’r gwasanaeth Premiwm lle’r ydych yn cyflwyno eich cais ac yn casglu eich pasport yr un diwrnod, cyhyd ag y bydd eich cais yn dod i law cyn yr oriau terfyn, sef 16:00 yn Llundain, 13:30 yn Lerpwl, 13:00 yn Peterborough, 12:30 yn Glasgow a Chasnewydd a hanner dydd yn Belfast a Durham. Ar ddydd Sadwrn, mae’r gwasanaeth ar gael i ymgeiswyr sydd ag apwyntiadau cyn 11am.

Os ydych am i rywun gasglu eich pasbort ichi, mae’n rhaid iddynt allu profi pwy ydynt a bod â llythyr wedi’i lopfnodi oddi wrthych chi yn rhoi caniatâd iddynt gasglu eich pasbort. Os yw’r cais ar ran plentyn, rhaid i’r person sydd wedi llofnodi adran 9 o’r ffurflen lofnodi’r llythyr. Ni allwn ond rhyddhau pasbort os yw’r sawl sy’n gwneud cais yn y DU adeg y cais.

Os na allwch chi fynychu cyfweliad yn bersonol, gall trydydd parti gyflwyno'r ffurflen gais ar eich rhan. Rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth o bwy ydynt a Llythyr wedi'i arwyddo gennych chi yn rhoi caniatâd iddynt gyflwyno'r cais ar eich rhan. Ni allwn ond rhyddhau pasport os bydd y sawl sy'n gwneud y cais yn y DU adeg y cais. Sylwer na ellir prosesu'r cais os bydd y ffurflen heb gael ei llenwi'n gywir neu os na chyflwynir y dogfennau atodol cywir. Dim ond yr ymgeisydd sy'n cael gwneud unrhyw ddiwygiadau, ac nid y trydydd parti, a gall fod angen apwyntiad pellach.

Amodau'r gwasanaethau hyn

Nid yw’r gwarant ar y gwasanaethau hyn ond yn berthnasol os yw eich cais yn un syml ac os ydych wedi llenwi’r ffurflen yn gywir gan ddarparu’r holl ddogfennau ategol angenrheidiol. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os na allwn gadarnhau a ydych yn gymwys ar sail y dogfennau a roesoch inni, mae’n bosibl na allwn ryddhau pasbort o fewn y cyfnod disgwyliedig.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.