Mae gan IPS bresenoldeb cenedlaethol ac mae'n cynnig cyfleoedd cyfleus am yrfa yn ein saith swyddfa ranbarth ac yn ein Pencadlys yn Llundain. Trwy ymuno ag IPS gallwch fanteisio ar holl fuddiannau gyrfa yn y gwasanaeth sifil gan gynnwys oriau gwaith hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol hael a chynllun pensiwn eithriadol. Yn ogystal â chynnig datblygiad gyrfa strwythuredig, byddwch yn cael y rhyddid a'r hyblygrwydd hefyd i weithio mewn gwahanol leoedd wrth i'ch gyrfa fynd rhagddi. Mae ein swyddfeydd yn Belfast, Glasgow, Lerpwl, Durham, Casnewydd a Peterborough yn delio gyda cheisiadau trwy'r post ac yn bersonol, tra bod ein swyddfa yn Llundain yn ymdrin â rhai sy'n galw'n bersonol yn unig.
Yn y dyfodol, bydd IPS yn cyfweld pawb sy'n gwneud cais am basport oedolyn am y tro cyntaf er mwyn atal twyll hunaniaeth.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.