Yr oedd y wybodaeth hon yn gywir yn Ionawr 2005.
| Country | Visa and collective passport requirements |
|---|---|
| Andora | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Awstria | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun |
| Gwlad Belg | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Bwlgaria | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Canada | Ni cheir defnyddio pasport cyfun i fynd i UDA o Ganada. |
| Cypros | Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad. |
| Gwladwriaeth Tsiec | Rhaid i basportau’r arweinydd a’r dirprwy arweinydd fod yn ddilys ers o leiaf chwe mis. Nid yw pasportau cyfun yn dderbyniol os yw plant yn aros mewn cartrefi unigol. |
| Denmarc | Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. |
| Ffindir | Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. |
| Ffrainc | Os yw’r parti’n aros mewn cartrefi unigol rhaid i’r arweinydd ddarparu copi o’r pasport cyfun i bob plentyn. |
| Yr Almaen | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Groeg | Nid yw pasportau cyfun yn dderbyniol os yw plant yn aros mewn cartrefi unigol. |
| Hwngari | Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. Nid yw pasportau cyfun yn dderbyniol os yw plant yn aros mewn cartrefi unigol. |
| Ynys yr Iâ | Nid oes angen fisa. |
| Israel | Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. |
| Yr Eidal | Rhaid i bob plentyn fod â llungopi o’r pasport cyfun os ydynt yn aros mewn cartrefi unigol. Dylid cyflwyno copi swyddogol o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. |
| Liechtenstein | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Lwcsembwrg | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Yr Iseldiroedd | Nid oes angen fisa na chopi o’r pasport cyfun. |
| Norwy | Rhaid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. |
| Gwlad Pwyl | Dylid holi’r llysgenhadaeth am yr amodau o ran fisa. |
| Portiwgal | Hyd at 25 o blant ar basport. |
| Rwsia | Mae angen fisa. Rhaid gwneud cais am basport cyfun o leiaf ddau fis ymlaen llaw, am fod angen mis ar Lysgenhadaeth Rwsia am fisa. |
| Slofacia | Gweler y Weriniaeth Tsiec. |
| Slofenia | Dylid holi’r llysgenhadaeth am yr amodau o ran fisa. |
| Sbaen | Rhaid dangos y man y deuir i Sbaen ar y ffurflen. Rhaid i bob plentyn fod â llungopi o’r pasport cyfun os ydynt yn aros mewn cartrefi unigol. |
| Sweden | Dylid cynnwys o leiaf 10 o blant ar y pasport. Dylid cyflwyno copi o'r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad a’i gadael. Mae angen amod arbennig a chopïau ychwanegol o’r pasport cyfun os ydych yn teithio o Sweden i Norwy, i Ddenmarc neu i Ffindir. Os felly, dylid ymgynghori â Chonswlad Sweden, cyn gwneud cais am y pasport. |
| Swistir | Nid yw pasportau cyfun yn dderbyniol os yw plant yn aros mewn cartrefi unigol. |
| Twnisia | Rhaid cyflwyno copi o’r pasport wrth ddod i mewn i’r wlad. |
| Mordeithiau | Dylid cysylltu â’r cwmni llongau sy’n trefnu’r daith. |
Gwledydd heb fod yn y rhestr uchod
Holwch gonswlad y wlad yr ydych yn mynd iddi a yw pasport cyfun
yn dderbyniol. Os yw, gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig i’w
anfon gyda’ch cais am basport yn dangos ei gofynion. Gall
y conswlad ddweud wrthych a oes angen fisa arnoch.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.