Yn Saesneg yn unig.
Rhyddheir pasport cyfunol i grwpiau cymeradwy o fyfyrwyr, sgowtiaid, geidiaid neu fudiadau ieuenctid cydnabyddedig eraill sy'n bwriadu cyd-deithio i wlad dramor. Gellir cynnwys rhwng pump a50 o blant a phobl ifanc ar basport cyfunol. Rhaid i bawb ar y pasport cyfunol fod dan 18 oed wrth iddynt ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig a rhaid iddynt fod hefyd yn wladlion Prydeinig, sy'n golygu un o;r canlynol:
*Sylwer: Mae'n bosibl na fydd cenedligrwydd Prydeinig gan blant a aned yn y DU ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 1982
I wybod rhagor neu i wirio cenedligrwydd neu unrhyw eithriadau i'r uchod cysylltwch â'r Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr ar 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau).
Rhaid i bob grwp fod ag oedolyn a enwyd fel Arweinydd Grwp i'w tywys wrth iddynt deithio. Rydym yn argymell hefyd y dylai grwpiau enwi Dirprwy Arweinydd a allai ofalu am y grwp petai'r Arweinydd yn sâl, er enghraifft, ac yn methu teithio*. Byddai hyn yn osgoi oedi wrth i enw Arweinydd newydd gael ei ychwanegu at y pasport cyfunol.
*Sylwer: Byddai'r pasport cyfunol yn annilys petai'r Arweinydd yn methu teithio a hynny heb benodi Dirprwy Arweinydd.
Rhaid i Arweinwyr a Dirprwy Arweinwyr Grwpiau fod dros 21 oed a rhaid iddynt ddal pasport Prydeinig 10 mlynedd dilys.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.