Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Swyddfeydd pasportau rhanbarthol

Casnewydd

Newport Passport Office
Olympia House
Upper Dock Street
Newport
Gwent
NP20 1XA

Ffôn: 0870 521 0410 (Llinell Gyngor)

Cyfarwyddiadau

Mae swyddfa Casnewydd yng nghanol y ddinas. Ceir arwyddion clir ati ac mae’n hawdd ei chyrraedd ar droed o’r brif orsaf fysiau a’r brif orsaf reilffordd.
Ar fws
Mae pob bws sy’n mynd i ganol dinas Casnewydd yn mynd â chi i’r orsaf fysiau. Mae’r swyddfa basportau ddau funud i ffwrdd ar droed.
Ar drên
Mae’r orsaf drenau yn Queensway. Dilyn yr arwyddion i’r swyddfa basportau, sydd tua phum munud i ffwrdd ar droed yng nghefn y brif ganolfan siopa.

Ceir tacsis yn yr orsaf.

Parcio

Nid oes lle i barcio ar safle’r swyddfa, ond ceir sawl maes parcio NCP o fewn cyrraedd hwylus ar droed.

Oriau agor (apwyntiadau'n unig):

Llun - Gwener 8.00am-5.00pm
Sadwrn 9.00am-3.00pm

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0870 521 0410 (gweler telerau ac amodau).
Codir tal o 8c y funud am alwadau o linell ddaear BT ac atebir pob galwad gan weithwyr byw