Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Swyddfeydd pasportau rhanbarthol

Peterborough

Peterborough Passport Office
Aragon Court
Northminster Road
Peterborough
Cambridgeshire PE1 1QG

Ffôn: 0870 521 0410 (Llinell Gyngor)

Cyfarwyddiadau

Ar y ffordd
Ar drên a bws
Wrth ichi adael Gorsaf Reilffordd Peterborough, trowch i'r dde trwy'r brif fynedfa a dilynwch y ffordd i Bourges Boulevard.

Croeswch y bont i gerddwyr dros Bourges Boulevard i Ganolfan Siopa Queensgate. Dilynwch yr arwyddion am yr Orsaf Fysiau (cyn ichi gyrraedd siop John Lewis) a mynd yn y lifft neu ar y grisiau i’r Orsaf Fysiau. Ewch allan trwy allanfa ogleddol yr Orsaf Fysiau a throi i’r chwith i Westgate. Dilynwch yr arwyddion i’r Orsaf Fysiau trwy Westgate a Midgate i City Road. Mae’r fynedfa gyhoeddus i Swyddfa Basportau Peterborough ar gornel City Road/Northminster Road.

Am amserlenni bysiau lleol cysylltwch â’r Llinell Deithio ar 0870 608 2 608
Am wybodaeth am drenau, cysylltwch ag Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50

Lleoliad
Mae Swyddfa Basportau Peterborough yng Nghanol Dinas Peterborough, gyferbyn â Market Square. Mae’r Swyddfa yn Aragon Court ar Northminster Road, yn ymyl New Road a City Road.Ceir maes parcio aml-lawr mawr (Maes Parcio’r Farchnad) dros y ffordd gyda digonedd o le i barcio. Mae parcio i’r anabl a maes parcio Talu ac Arddangos arhosiad byr ar gael ar City Road yn ymyl y Swyddfa.

Meysydd Parcio – dyfyniad o wefan Cyngor Peterborough.

“Gall gyrwyr anabl barcio mewn unrhyw faes parcio o eiddo Cyngor y Ddinas yn y mannau parcio yn ddi-dâl - trwy’r dydd os dymunwch, gofalwch fod eich dyddiad terfyn yn glir i’r Swyddog Parcio ei weld.
Parcio ar y Stryd.
Gall gyrwyr anabl barcio yn y mannau parcio talu ac arddangos yn ddi-dâl, gofalwch fod eich dyddiad terfyn yn glir i’r Swyddog Parcio ei weld.
Dyfyniad o Lyfryn y Cynllun Bathodyn Glas.
Gall deiliaid Bathodynnau barcio’n ddi-dâl a heb derfyn amser wrth fesuryddion parcio ar y stryd, ac mewn mannau parcio "talu ac arddangos" ar y stryd oni bai fod gorchymyn traffig lleol, sy’n dynodi terfyn amser penodol i ddeiliaid bathodynnau parcio i’r anabl, megis gwaharddiad ar lwytho mewn grym. Gall deiliaid bathodynnau dos yn rhydd rhag terfynau amser ar barcio sy’n gymwys i ddefnyddwyr eraill. (Gwiriwch yr arwyddion lleol am fanylion).”

P1 – Maes Parcio Aml-lawr y Marchnadoedd Arhosiad Byr a Hir
P2 & P3 - Brook Street Arhosiad Byr a Hir
P4 - Wellington Street Arhosiad Byr a Hir
P5 - Dickens Street Arhosiad Byr a Hir
P6 - Maes Parcio Aml-lawr Queensgate. Arhosiad Byr a Hir
P7 - Maes Parcio Aml-lawr Station Road. Arhosiad Byr a Hir

Oriau agor (apwyntiadau'n unig):

Llun - Gwener 8.00am-5.00pm
Sadwrn 9.00am-3.00pm

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0870 521 0410 (gweler telerau ac amodau).
Codir tal o 8c y funud am alwadau o linell ddaear BT ac atebir pob galwad gan weithwyr byw