Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Gwybodaeth gyffredinol

Swyddfeydd pasportau rhanbarthol

Mae gennym gyfanswm o saith swyddfa basportau un yn Llundain a chwech mewn rhannau eraill o’r wlad.

Nid oes angen ichi ddod i’r swyddfa oni bai fod eich cais yn gais brys hy fod angen ichi deithio o fewn llai na phythefnos. (Gweler Ceisiadau brys am wybodaeth fwy manwl.) Rydym yn eich cynghori i beidio â threfnu teithio o gwbl hyd nes byddwch wedi derbyn eich pasport newydd.

Gwnewch apwyntiad cyn ichi gyrraedd unrhyw un o’n swyddfeydd. I gael gwybod ble mae eich swyddfa agosaf ac i wneud apwyntiad, dylech ffonio’r Llinell Gyngor ar 0300 222 0000.

Os nad ydych yn teithio o fewn y pythefnos nesaf, defnyddiwch yr adran Gwneud cais am basport ar y wefan hon. Bydd yn esbonio sut i wneud cais am basport newydd neu sut i adnewyddu neu ddiwygio eich pasport presennol yn y ffordd arferol.

Noder:

Cliciwch ar y swyddfeydd isod am fap a manylion oriau agor.

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls are
charged at 8p per minute from a BT landline; live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day